Cyfnod astudio neu leoliad gwaith dramor neu 'flwyddyn ryngosodol'
Cewch eich annog yn gryf i ystyried astudio dramor a dysgu iaith wrth astudio am radd ym Mhrifysgol Abertawe. Cydnabyddir y gall profiad symudedd ehangu'ch profiad dysgu'n sylweddol. Yn ogystal â rhoi cyfle i chi ddysgu iaith newydd (os yw'n berthnasol) cewch flas ar ddiwylliant arall a dysgu ganddo hefyd. Yn ddi-os, caiff eich cyflogadwyedd ei wella yn sgil cyfnod llwyddiannus yn astudio neu'n gweithio dramor.
Mae rhai rhaglenni gradd a gynigir yn Abertawe yn cynnwys ‘blwyddyn ryngosodol' fel rhan annatod o'r rhaglen. Yn ystod y 'flwyddyn ryngosodol', byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor neu'n ymgymryd â lleoliad diwydiannol. Mae rhai Cyfadrannau/Ysgolion hefyd yn cynnig cyfle i astudio mewn prifysgol dramor am semester, neu i fynd ar leoliad diwydiannol am semester.
Mae eich cynnydd yn ystod y lleoliad gwaith yn cael ei fonitro'n ofalus gan y Gyfadran/Ysgol Cartref, a bydd canlyniadau cyfle symudedd yn cyfrannu at eich dilyniant o un flwyddyn i'r flwyddyn nesaf. Os bydd eich cynnydd neu'ch perfformiad yn anfoddhaol, gall y Brifysgol fynnu eich bod yn tynnu'n ôl o'r rhaglen neu, o bosib, o'r Brifysgol.
Os byddwch yn astudio mewn prifysgol dramor, bydd eich Gyfadran/Ysgol Cartref yn eich hysbysu am y marc a ddynodir i'ch astudiaethau. Bydd y marc hwn yn cael ei gynnwys yn y confensiynau dosbarthu gradd ac efallai y bydd yn dylanwadu ar ddosbarthiad eich gradd. Mae'r rheolau ynghylch dyfarnu gradd i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen sy'n cynnwys blwyddyn ryngosodol wedi eu cynnwys yn rheoliadau'r rhaglenni a'r rheoliadau asesu. Dilynwch y ddolen i weld y tablau trosi marciau.
Dilynwch y ddolen i gael gwybodaeth am sut mae marc yn cael ei gyfrifo ar gyfer lleoliad astudio.
Gallwch gael gwybodaeth am gyfleoedd i astudio dramor gan y tîm Ewch yn Fyd-eang yn y Swyddfa Datblygu Rhyngwladol drwy e-bostio: astudiodramor a chan eich Cyfadran/Ysgol hefyd.