Marcio
Marcio
Am wybodaeth am Farcio, Cymedroli a Chyhoeddi Marciau, gweler Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth Prifysgol Abertawe.
Graddfeydd Marcio
Dyfernir marc i chi am bob modiwl, yn seiliedig ar eich perfformiad yn yr ymarferion asesu amrywiol. Fel arfer, mae Gyfadranau'n cyhoeddi cyfres o gonfensiynau marcio a fydd yn esbonio sut maent yn cyfrifo marciau penodol.
Defnyddir y graddfeydd canlynol gan yr aelodau staff academaidd wrth bennu marciau (ac eithrio yn achos myfyrwyr ôl-raddedig a ddechreuodd cyn mis Medi 2003).
Graddfeydd Marcio Myfyrwyr Israddedig
Marc pasio = 40%*
Marc | |
---|---|
Marc Dosbarth Cyntaf | 70% + |
Marc Ail Ddosbarth Uwch - 2(i) | 60-69.99% |
Marc Ail Ddosbarth Is - 2(ii) | 50-59.99% |
Marc Trydydd Dosbarth | 40-49.99% |
Methiant | 0-39.99% |
* Sylwer: 50% yw'r marc pasio a bennwyd ar gyfer modiwlau ôl-raddedig (Lefel 7). Os ydych yn astudio am Radd Gychwynnol Uwch (e.e. MEng/MMath/MPhys/MOst), byddwch yn astudio modiwlau o'r fath yn ystod y flwyddyn olaf a disgwylir i chi ennill marc o 50% neu uwch cyn y tybir eich bod wedi pasio'r modiwl.
Graddfeydd Marcio Rhaglenni Meistr/Diploma Ôl-raddedig a Addysgir
Marciau Modiwl
Marc pasio ar gyfer credyd = 50%
Methiant = 0-49.99%
Cyfartaleddau Cyffredinol/Canlyniad
Marc | |
---|---|
Pasio ar lefel Rhagoriaeth | 70%+ |
Pasio ar lefel Teilyngdod | 60-69.99% |
Pasio | 50-59.99% |
Methiant | 0-49.99% |
Graddfa Marcio Tystysgrifau Ôl-raddedig
Marc pasio = 50%
Methiant = 0-49.99%
Nid yw goddefiant yn berthnasol.
Dulliau Asesu
Ystyrir bod pob modiwl yn elfen ar wahân, felly dylid ei asesu fel arfer yn annibynnol ar bob modiwl arall. Gellir asesu modiwlau mewn sawl ffordd:
- Arholiadau;
- Arholiad llafar;
- Prosiect;
- Traethawd estynedig;
- Asesu parhaus (a allai gynnwys gwaith maes, adroddiadau, adroddiadau am ddosbarth ymarferol, prosiectau grŵp, gwaith traethawd etc.).
Mae'r dulliau asesu wedi'u cynllunio i brofi'ch dealltwriaeth o'r gwaith a gynhwyswyd yn y maes llafur. Cânt eu pennu gan y Gyfadran ac maent yn ystyried natur y modiwl penodol. Gall y dulliau asesu gynnwys dulliau ffurfiannol (i ddarparu adborth ar eich perfformiad yn unig) neu ddulliau crynodol (sy'n cyfrannu at benderfynu a fyddwch yn pasio neu'n methu'r modiwl/rhaglen).
Mae manylion dulliau asesu pob modiwl ar gael yn llawlyfrau'r Gyfadranau, gan gynnwys manylion am sut i wneud yn iawn am fethu modiwlau sy'n cael eu hasesu drwy asesu parhaus.
Bydd y Gyfadranau hefyd yn pennu dyddiadau cau i gyflwyno gwaith (gweler yr adran Cosbau am Gyflwyno Gwaith i'w Asesu'n Hwyr). Fe'ch cynghorir yn gryf i sylwi ar y dulliau amrywiol mae'ch Cyfadran wedi penderfynu eu defnyddio i'ch asesu ac i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych â'ch darlithwyr yn gynnar yn y sesiwn. Er enghraifft, bydd yn hynod bwysig i chi wybod ymlaen llaw a fydd traethawd/adroddiad ymarferol etc yn cyfrannu at farc cyffredinol y modiwl. Dylech hefyd nodi'r dyddiadau cau a bennir gan eich Cyfadran i gyflwyno gwaith, a chanlyniadau cyflwyno gwaith yn hwyr.
Dylech hefyd ddarllen Llawlyfr(au) eich Cyfadran i weld manylion am y cyfnodau arholi pan gynhelir yr arholiadau ffurfiol. Mae'n rhaid i chi gwblhau pob elfen ym mhatrwm asesu modiwl.
Cosb am gyflwyno gwaith i'w asesu’n hwyr
Cosbau am Gyflwyno'n Hwyr
Ar gyfer sesiwn academaidd 2020-21, rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion ddewis un o'r dewisiadau canlynol mewn perthynas â chyflwyno'n hwyr:
Ystyrir na fydd myfyriwr sy'n cyflwyno darn o waith asesedig wedi'r dyddiadau cau cyhoeddedig heb gyflwyno cais am Amgylchiadau Esgusodol (yn unol â'r Polisi Amgylchiadau Esgusodol) wedi cyflwyno a bydd yn derbyn marc o 0% ar gyfer yr asesiad.
NEU
Bydd ymgeiswyr nad ydynt yn cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a gyhoeddwyd ac nid oes ganddynt Amgylchiadau Esgusodol yn derbyn cosb o 10 marc fesul dydd calendr y mae'r gwaith yn hwyr. Bydd unrhyw waith sy'n cael ei gyflwyno mwy na 7 niwrnod calendr yn hwyr yn arwain at farc o 0%.
Bydd y rhan hon o'r Polisi yn destun adolygiad pellach cyn sesiwn academaidd 2021-22, gyda'r nod o greu ymagwedd gyson ar draws y Brifysgol.
Dylai myfyrwyr sy'n debygol o gael eu hatal rhag bodloni'r dyddiad cyflwyno ar gyfer asesiad oherwydd amgylchiadau esgusodol hysbysu eu Gyfadran/Ysgol/Prifysgol cyn gynted ag y bo modd a lle bynnag y bo modd, cyn dyddiad cyflwyno'r asesiad. Gweler y Polisi Amgylchiadau Esgusodol am ragor o wybodaeth.
Cosbau am gyflwyno gwaith sy'n groes i baramedrau a ddiffiniwyd (e.e. uchafswm geiriau)
Gall myfyrwyr sy'n cyflwyno asesiad sy'n mynd yn groes i baramedrau a ddiffiniwyd (e.e. fformat cyflwyno penodol, dros yr uchafswm geiriau, hyd y fideo, maint y ffont, maint y poster etc.) dderbyn cosb ar farc terfynol yr asesiad, fel a amlinellwyd yn neunyddiau cyhoeddi'r Gyfadran/Ysgol, e.e. Llawlyfr Myfyrwyr).
Ni chaiff gwaith sy'n cael ei gyflwyno yn Gymraeg ei gyfieithu oni bai nad oes opsiwn arall, ac ni fydd cosb os bydd y cyfieithiad yn mynd yn groes i baramedrau asesu, pan fydd y cyflwyniad gwreiddiol yn Gymraeg yn ufuddhau iddynt.