Mae uniondeb academaidd yn adlewyrchu cyfres gyffredin o egwyddorion sy'n cynnwys gonestrwydd, ymddiriedaeth, diwydrwydd, tegwch a pharch, ac mae'n ymwneud â diogelu uniondeb gwaith a dyfarniad myfyriwr. Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar yr ethos bod y modd rydych chi'n dysgu'r un mor bwysig â'r hyn a ddysgir.
Mae uniondeb academaidd yn seiliedig ar nifer o egwyddorion craidd. I fyfyrwyr, mae hyn yn golygu:
- Derbyn cyfrifoldeb am eu gwaith a'u hastudiaethau eu hunain;
- Parchu barn pobl eraill, hyd yn oed wrth anghytuno â nhw;
- Parchu hawliau pobl eraill i weithio ac astudio o fewn y 'gymuned ddysgu';
- Cydnabod gwaith pobl eraill, lle mae wedi cyfrannu at eu hastudiaethau, eu hymchwil, neu eu cyhoeddiadau eu hunain;
- Sicrhau bod cyfraniad yr unigolyn at waith grŵp yn cael ei gynrychioli mewn modd gonest;
- Cefnogi eraill i ymddwyn ag uniondeb academaidd;
- Glynu wrth y gofynion moesegol a, lle bo'n briodol, y safonau proffesiynol, sy'n berthnasol i'r ddisgyblaeth;
- Osgoi gweithredu mewn modd a fyddai'n ennill mantais annheg dros eraill;
- Sicrhau bod canlyniadau ymchwil neu ddata arbrofol yn cael eu cynrychioli mewn modd gonest;
- Cydymffurfio â'r gofynion asesu.
Uniondeb academaidd yw'r egwyddor arweiniol ar gyfer pob asesiad myfyrwyr, gan gynnwys arholiadau, cyflwyniadau llafar, aseiniadau ysgrifenedig, traethodau estynedig, a thraethodau ymchwil.
Camymddygiad Academaidd
Camymddwyn academaidd yw peidio â glynu wrth egwyddorion a gwerthoedd uniondeb academaidd, ac yn aml bydd yn cynnwys ymgais gan fyfyriwr i gael mantais annheg mewn asesiad. Mae camymddygiad academaidd yn cynnwys: llên-ladrad; cydgynllwynio; torri rheoliadau arholi; ffugio data; personadu rhywun arall neu gomisiynu gwaith i'w asesu. Mae'r Brifysgol yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i bob honiad o gamymddygiad academaidd.
Swyddogion Uniondeb Academaidd y Gyfadranau
Bydd gan bob Cyfadran ei Swyddogion Uniondeb Academaidd ei hun a fydd yn gyfrifol am ymdrin ag achosion ar lefel y Cyfadran (tramgwydd cyntaf).
Diffinnir camymddwyn academaidd fel unrhyw weithred lle mae unigolyn yn ceisio mantais annheg nas caniateir, naill ai iddo ei hun neu i rywun arall. Bydd hyn yn berthnasol p'un a yw ymgeisydd yn gweithredu ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag un neu fwy o unigolion eraill. Tybir bod gweithred neu weithredoedd yn cydweddu â’r diffiniad hwn p’un a ydynt yn digwydd yn ystod, neu mewn perthynas ag, arholiad ffurfiol, gwaith cwrs neu unrhyw fath arall o asesiad mae ymgeisydd yn ymgymryd ag ef i ennill cymhwyster academaidd neu broffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe.
Camymddygiad academaidd yw:
- mynd ag unrhyw ddeunydd nas awdurdodwyd i'r ystafell arholi, megis llyfr, llawysgrif, data neu bapurau rhydd, gwybodaeth a geir trwy ddyfais electronig, neu unrhyw ffynhonnell arall o wybodaeth waharddedig;
- cyflwyno papur arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw pan fydd y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau gwaharddedig.
- copïo gwaith neu gyfathrebu â rhywun arall yn yr ystafell, ac eithrio pan awdurdodir hynny gan oruchwyliwr;
- cyfathrebu'n electronig â rhywun arall yn ystod arholiad;
- bod â dyfais electronig yn eich meddiant, sy'n gallu cyfathrebu â dyfeisiadau eraill neu â phobl eraill yn ystod arholiad;
- personadu ymgeisydd mewn arholiad, neu ganiatáu i rywun arall eich personadu;
- cyflwyno tystiolaeth am amgylchiadau arbennig i fwrdd arholi lle mae'r dystiolaeth yn anghywir neu wedi'i ffugio neu'n camarwain, neu'n gallu camarwain, y bwrdd arholi;
Enghreifftiau o gamymddwyn academaidd heblaw am mewn arholiadau, er enghraifft gwaith cwrs, aseiniad, traethawd hir ac yn y blaen:
Llên-ladrad: a ddiffinnir fel defnyddio gwaith rhywun arall heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i’w asesu a honni mai eich gwaith chi ydyw; er enghraifft, copïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Bydd pob Cyfadran yn eich cynghori ar beryglon llên-ladrad a sut i'w osgoi. Yn y bôn, rhaid i chi gyfeirnodi unrhyw ddeunydd, gan gydnabod y ffynhonnell.
Cydgynllwynio: pan fydd dau neu fwy o fyfyrwyr yn cydweithio heb ganiatâd ymlaen llaw er mwyn cael mantais annheg a chynhyrchu'r un gwaith, neu waith tebyg, ac yna'n ceisio cyflwyno'r gwaith hwn fel eu gwaith eu hunain.
Comisiynu gwaith, sef talu am waith, neu drefnu i rywun arall gynhyrchu darn o waith a gyflwynir wedyn i'w asesu fel gwaith y myfyriwr ei hun.
Ffugio canlyniadau gwaith labordy, gwaith maes, neu waith arall sy'n casglu ac yn dadansoddi data.
Mae twyllo'n peri risg enfawr i chi, gan y gall y cosbau y byddwch yn eu derbyn os cewch eich dal fod yn ddigon i ddinistrio'ch gyrfa. Er enghraifft, os ydych chi'n astudio'r gyfraith, efallai na chewch eich derbyn yn aelod o Gymdeithas y Gyfraith os cadarnheir honiad o gamymddwyn academaidd yn eich erbyn. Yn yr un modd, os ydych chi'n dyheu am ddod yn athro, yn feddyg, neu'n nyrs, gall eich llwybr gyrfa gael ei gau cyn i chi ddechrau os cewch eich dal yn twyllo.
Mae'r cosbau a ddyfernir i fyfyrwyr yn amrywio o rybuddion i ddileu marciau ar gyfer y modiwl i ofyn i'r myfyriwr adael y Brifysgol.