Ble i ddod o hyd a sut i ddefnyddio ein loceri gliniaduron

Lleolir ein Loceri Gliniaduron yn ein Llyfrgelloedd ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae

Darllenwch y Telerau ac Amodau yn olfalus a dilynwych y cafarwyddidau isod ar gyfer benthyca a dychweld y gliniaduron.

I benthyg gliniadur

1. Dewiswch ‘Borrow’ o sgrîn gyffwrdd y Locer
2. Sganiwch eich cerdyn myfyriwr ar y panel ar yr ochr chwith o dan y sgrîn gyffwrdd (sydd o fewn y blwch coch yn y llun i ochr dde y cyfarwyddiadau hyn) 
3. Darllenwch a derbyniwch yr Amodau a Thelerau (Wedi’i arddangos uwchben y cyfarwyddiadau benthyg hyn) - ni allwch fenthyg gliniadur heb dderbyn yr Amodau a Thelerau.
4. Yna bydd y sgrîn yn arddangos y locer rydych wedi’i gael. Bydd y locer yn fflachio i nodi’r locer y gallwch fenthyg y gliniadur oddi wrtho.

Delwedd o ochr chwith y Loceri Gliniaduron sy’n cynnwys y sgrîn gyfarwyddiadau

5. Sganiwch eich cerdyn myfyriwr ar y darllenydd cerdyn perthnasol ar y rhes sy’n fflachio. Bydd hyn yn agor y drws.
6. Pan fydd y drws ar agor, datgysylltwch y wifren bŵer o’r gliniadur yn y locer.
7. Yna tynnwch yr holl gynnwys (y gliniadur a’r gwefrwr nad ydynt wedi’u cysylltu â’r locer) a chaewch ddrws y locer.
Sylwer, rhaid i chi fewngofnodi i’r gliniadur unwaith rydych ar y campws neu gysylltu â’r rhyngrwyd cyn mewngofnodi gartref.

Delwedd o ochr dde uned y Loceri Gliniaduron sef y loceri eu hunain

I dychwelyd gliniadur

  1. Dewiswch ‘Return’ ar sgrîn gyffwrdd y Locer.
    2. Sganiwch eich cerdyn myfyriwr ar y panel ar yr ochr chwith o dan y sgrîn gyffwrdd (sydd o fewn y blwch coch yn y llun i ochr dde y cyfarwyddiadau hyn) 
    3. Bydd y locer y dylech ddychwelyd y gliniadur iddo yn cael ei arddangos ar y sgrîn a bydd yn fflachio.
    4. Agorwch y drws a gosodwch y gliniadur a’r gwefrwr yn y locer.

Sylwch: Codir dirwy o £30 ar eich cyfrif llyfrgell os nad ydych yn dychwelyd cebl pŵer y gliniadur.

Pwysig! Er mwyn cadw'ch cyfrif yn ddiogel, gwnewch yn siŵr eich bod wedi allgofnodi o'ch cyfrif ac wedi cau'r gliniadur yn llwyr cyn ei ddychwelyd. Hefyd, gwnewch yn siwr eich bod yn cysylltu’r gliniadur â’r cysylltiad pŵer sydd yn y locer neu ni fydd yn cael ei ddileu o’ch cyfrif.
Returning instructions photo