Llun agos o fysellfwrdd Windows

Cyfarwyddiadau Gosod Wi-Fi ar gyfer Windows

Sut i gysylltu'ch dyfais Windows ag eduroam

Isod mae cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu'ch dyfais Windows a'r rhwydwaith diwifr eduroam. Sicrhewch eich bod wedi cysylltu â'r rhwydwaith diwifr SwanseaUni-Setup wrth ddilyn y cyfarwyddiadau perthnasol i'ch dyfais.

Windows 7, 8 & 10

Mae'r gwasanaeth wi-fi yn galluogi aelodau'r Brifysgol i gysylltu â rhwydwaith y Brifysgol a'r rhyngrwyd wrth ddefnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau personol. Mae'r gwasanaeth ar gael ar draws gampysau a lletyau'r Brifysgol. Mae'r canllaw hwn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer cysylltu cyfrifiadur Windows â rhwydwaith diwifr eduroam.

Gosod yn gyflym

Ar ôl cofrestru eich dyfais, lawrlwythwch y Teclyn Gosod neu dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer gosod y Wi-Fi â llaw.