CROESO I TRE

Mewn partneriaeth ag Amazon Web Services (AWS), mae Tîm y Dyniaethau Digidol a Data Ymchwil, ynghyd â'r gwasanaethau TG yn Abertawe, wedi creu amgylchedd ymchwil dibynadwy (TRE) o'r radd flaenaf. Bydd hyn yn galluogi prosiectau ymchwil sy'n sensitif o ran diogelwch i gael eu cynnal yn Abertawe. O brosiectau a setiau data bach iawn i rai mawr iawn, mae TRE yn ddull cyfrifiadurol o ddiwallu anghenion ymchwil ar gwmwl a ddatblygwyd i gynorthwyo diogelwch data sensitif, ei ddadansoddi a'i storio. Mae TRE yn darparu set o adnoddau hyblyg a thempledi a adeiladwyd ymlaen llaw i gefnogi prosiectau sy'n ymgymryd ag ymchwil sy'n sensitif o ran diogelwch.

Mae TRE yn cynnig rhyngwyneb syml i ddefnyddwyr sydd wedi'i ddylunio ar gyfer ymchwilwyr, sy'n gallu defnyddio'r gweithfannau hunanwasanaeth ar gais mewn modd hyblyg a chosteffeithiol. Mewn cydweithrediad â'n tîm, gellir creu’n gyflym amgylcheddau cyfrifiadurol pwrpasol i ddiwallu anghenion ymchwil, gan lynu wrth arferion gorau o ran safonau seiberddiogelwch a chydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol megis y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Rheolaethau Allforio'r DU. Darperir hyfforddiant llawn ynghylch defnyddio cydrannau TRE fel rhan graidd o'r gwasanaeth.