Mae Polisi Prifysgol Abertawe ar Ddefnydd Derbyniol Digidol yn darparu fframwaith ar gyfer defnydd derbyniol ac annerbyniol o gyfrifiadura ac adnoddau gwybodaeth Prifysgol Abertawe.

Ymddiriedir yng ngweinyddwyr systemau a staff eraill Prifysgol Abertawe sydd â Mynediad Gweinyddwr at adnoddau cyfrifiadurol a gwybodaeth i ddefnyddio'r fath fynediad mewn modd priodol. Dyma ganllawiau lefel uchel ar ystyr defnydd priodol ac amhriodol o Fynediad Gweinyddwr.