SUT I GYSYLLTU Â NI...

I roi gwybod am ddigwyddiad seiber a diogelwch gwybodaeth codwch docyn desg wasanaeth ar unwaith gan ddefnyddio’r manylion isod:

Dylid annog partïon allanol sy’n dymuno codi pryder ynghylch diogelwch seiber a gwybodaeth hefyd i gysylltu â’r Ddesg Gwasanaethau TG neu gallwch godi’r pryder yn eich enw eich hun gan ddarparu manylion cyswllt priodol ar gyfer y trydydd parti. Rhowch rif tocyn y ddesg wasanaeth i'r trydydd parti er mwyn cyfeirio ato ac eglurwch y bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â nhw.

Mae tîm y ddesg wasanaeth wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol wrth asesu'r holl wybodaeth sy'n dod i mewn fel ein bod yn derbyn eich adroddiad cyn gynted â phosibl ac yn gallu dechrau gweithgareddau gwerthuso a lliniaru. I gynorthwyo gyda’r broses hon, nodwch yn eich disgrifiad fod hwn yn bryder diolgelwch seiber a gwybodaeth.

Peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu sensitif yn eich adroddiad a sicrhewch fod y manylion cyswllt priodol yn cael eu darparu (yn unol â'r brysoldeb) fel y gallwn gysylltu â chi am ragor o wybodaeth. Os nad ydych chi’n siŵr a ddylech chi riportio rhywbeth i ni ai peidio, peidiwch â phoeni… codwch ef gyda ni, ni fyddwn yn barnu a byddai’n well gennym ddarganfod camrybudd yn hytrach na cholli rhywbeth pwysig. Yn y maes hwn gall pob eiliad gyfrif.

Oherwydd natur ein gwaith rydym yn deall y gallech ddymuno cysylltu â ni ynglŷn â mater cyfrinachol neu sensitif. Os dyma'r achos ,a bod yn well gennych siarad â ni'n uniongyrchol, yna defnyddiwch y manylion cyswllt yn y blwch glas uchod a nodwch yr hoffech i aelod o'r tîm diogelwch seiber a gwybodaeth gysylltu â chi; nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion pellach.

GWYBODAETH BELLACH...