Er mwyn helpu myfyrwyr yn ystod pandemig Covid-19, mae Gwasanaethau TG wedi buddsoddi mewn porth gwe a fydd yn caniatáu mynediad o bell i gyfrifiaduron ar y campws.

Mae ein gwasanaeth Mynediad Cyfrifiaduron o Bell yn galluogi myfyrwyr i reoli cyfrifiaduron o bell mewn sawl labordy ar draws y Brifysgol. Ar hyn o bryd, rydym ni’n cynnig oddeutu 100 cyfrifiadur i’w defnyddio ar unrhyw adeg.

Ein nod yw cynnig profiad teg i fyfyrwyr o ran meddalwedd a manteisio ar gyfrifiaduron y Brifysgol â manyleb dechnegol uchel. 


Er enghraifft, bydd hyn o gymorth yn y sefyllfaoedd canlynol lle nad yw cael mynediad i’r campws yn bosib:

  • Ar gyfer y rhai y mae angen iddynt gyrchu meddalwedd neu adnoddau a gynhelir gan y Brifysgol yn unig 
  • Ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cyfrifiadur personol nad yw’n ddigon pwerus i redeg meddalwedd y Brifysgol 
  • Ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cyfrifiadur Mac ac mae angen iddynt ddefnyddio meddalwedd Windows 

Gwasanaeth Mynediad Cyfrifiadur Personol o Bell: Cwestiynau Cyffredin