Mae’n rhaid i chi feddu ar Drwydded Deledu ddilys i:
wylio neu recordio rhaglenni wrth iddynt gael eu dangos ar y teledu, ar unrhyw sianel
2. gwylio neu ffrydio rhaglenni yn fyw ar wasanaeth teledu ar-lein (fel ITV Hub, All4, YouTube, Amazon Prime Video, Now TV, Sky Go, etc.)
3. lawrlwytho neu wylio unrhyw raglenni gan y BBC ar BBC iPlayer
Mae hyn yn berthnasol i unrhyw ddyfais rydych chi’n ei defnyddio, gan gynnwys: Teledu, cyfrifiadur personol, gliniadur, ffôn symudol, llechen, consol gemau, neu recordydd digidol yn eich ystafell wely eich hun neu mewn ardaloedd cymunedol.
Gall cynrychiolwyr yr Awdurdod Trwyddedu Teledu wneud gwiriadau ym mhob rhan o’n preswylfeydd a bydd staff yn dod gyda nhw pan fyddant yn ymweld.
Cofiwch, os nad oes Trwydded Deledu gennych, gallech wynebu dirwy o hyd at £1000, felly mae'n rhaid i chi brynu un os oes ei hangen arnoch chi. Gallwch chi ddysgu popeth y mae angen i chi ei wybod am drwyddedu teledu, gan gynnwys sut i hawlio nôl am fisoedd heb eu defnyddio yn TV Licence.
Ymholiadau cyffredinol ynghylch Trwyddedau Teledu: 0300 790 6090.