Mae'r Brifysgol yn cynnig WiFi am ddim i fyfyrwyr ac mae mynediad ar gael yn ein holl breswylfeydd.
Campws y Bae
Dylai preswylwyr Campws y Bae gysylltu â rhwydwaith Optify.
Gweler y canllaw hwn ynghylch sut i gofrestru a manylion cyswllt y tîm cymorth:
1. Agorwch eich porwr gwe a bydd sgrîn i gofrestru gydag Optify yn ymddangos.
2. Cliciwch ar y botwm "Create Account". Rhowch eich manylion a dewiswch eich dyfais.
3. Ar ôl cwblhau cofrestru, nodwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair.
4. Byddwch chi’n dychwelyd i'r sgrîn i fewngofnodi i Optify. Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair newydd i fynd ar-lein.
Pob safle arall
Eduroam yw Rhwydwaith Diwifr y Brifysgol, sydd ar gael ar Gampws Parc Singleton, ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan ac yn Nhŷ Beck, ac mae'n addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddyfeisiau. Dylid defnyddio Eduroam ar gyfer popeth ar wahân i ddyfeisiau chwarae gemau a dyfeisiau'r rhyngrwyd o bethau (dylid defnyddio Swansea Uni-play yn ei le). Mae angen i ddefnyddwyr gofrestru pob dyfais i ddefnyddio'r rhwydwaith
Eich cyfeiriad e-bost yw eich enw defnyddiwr, e.e. 1234567@abertawe.ac.uk). Eich cyfrinair yw'r hyn rydych chi wedi’i osod eisoes ar gyfer cyrchu MyUni, e-byst, y fewnrwyd etc. Os nad ydych chi wedi gosod cyfrinair, mae’r cyfrinair diofyn yn gyfuniad o’ch rhif myfyriwr a’ch dyddiad geni ar y ffurf rhifmyfyriwr/dd/mm/bbbb
Os oes gennych chi’ anawsterau technegol, cyflwynwch gais am gymorth drwy Ddesg Gwasanaeth GGS neu e-bostiwch customerservice@abertawe.ac.uk.