Mae'r system Cynrychiolwyr Preswylfeydd Myfyrwyr yn bartneriaeth rhwng Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Preswyl.
Hoffem benodi Cynrychiolwyr Preswylfeydd Myfyrwyr i weithio'n agos gydag Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Preswyl i sicrhau bod lleisiau, diddordebau a barn myfyrwyr yn cael eu cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'n preswylfeydd, profiad y myfyrwyr ac i greu cymuned well yn y preswylfeydd.
Gwaith Cynrychiolydd yw gwrando ar fyfyrwyr, casglu eu barn a'i chyfleu i eraill. Bydd Cynrychiolwyr yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Preswyl am faterion pwysig, gan atal cwynion ac annog gwell ymgysylltu, a disgwylir iddynt fod yn rhagweithiol wrth ddarparu adborth adeiladol a helpu i wneud gwahaniaeth yn y preswylfeydd. Nod y rôl hon yw galluogi myfyrwyr i gyfrannu'n fwy gweithredol yn eu preswylfeydd ac at eu profiad preswyl, ac mae'n sicrhau bod Prifysgol Abertawe'n parhau i fod yn lle gwych i fyw ac astudio.
Hefyd, disgwylir i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn ymgyrchoedd sy'n cael eu cynnal gan Undeb y Myfyrwyr a'r Gwasanaethau Preswyl fel rhan o'r rhaglen Bywyd Preswyl i gael effaith gadarnhaol ar breswylfeydd a'r Brifysgol.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud newid, cefnogi eich cymuned myfyrwyr yn y preswylfeydd a meithrin sgiliau newydd, cyflwynwch gais heddiw.
E-bostiwch accommodation@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth ac i gyflwyno cais am y rôl wirfoddol hon.