GWEITHIO GYDA'N GILYDD I LEIHAU, AILDDEFNYDDIO AC AILGYLCHU EIN GWASTRAFF

Mae cynhyrchu lai o wastraff, ailddefnyddio a didoli mwy o wastraff ar gyfer ailgylchu dolen gaeedig yn cefnogi'r economi gylchol.Mae lleihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau'n un o ffocysau gweithredol allweddol Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd 2021-2025 y Brifysgol.

Rydym yn ymrwymedig i wella ein harferion flwyddyn ar ôl blwyddyn a chynhaliwyd archwiliad annibynnol trylwyr o’n gweithgareddau gan yr Ymddiriedolaeth Garbon ym mis Hydref 2022. Y nod oedd asesu ein holl ffrydiau gwastraff (dros 40) a sicrhau nad oedd dim o wastraff y Brifysgol yn cyrraedd safleoedd tirlenwi. Yn dilyn proses a adolygodd 40 o ffrydiau gwastraff a chwe chyflenwr rheoli gwastraff dros chwe mis, rydym yn falch o gyhoeddi bod Prifysgol Abertawe’n Brifysgol nad yw’n anfon DIM gwastraff i safleoedd tirlenwi. 

Logo ar gyfer Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon ar gyfer Dim Gwastraff i Dirlenwi

Cynhyrchu ystod eang o wastraff nad yw'n beryglus a gwastraff peryglus a reolir sy'n golygu ein bod yn rheoli ein gwastraff yn unol â’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ac yn gweithredu o fewn gofynion yr holl ddeddfwriaeth gwastraff berthnasol ac o fewn cylch gorchwyl yr Hierarchaeth Wastraff.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am wastraff ac ailgylchu yn y Brifysgol, cysylltwch â ni.