1. Addysgwch eich hunan a phobl eraill, arweiniwch drwy esiampl
Mae llawer o lenyddiaeth ar gael ynghylch pam a sut mae lleihau eich ôl troed plastig personol yn bwysig. Ac, yn ogystal â lleihau eich defnydd chi o blastig, os ydych chi'n llwyddo i annog eich teulu, eich ffrindiau a'ch cyd-weithwyr i wneud yr un peth, bydd effaith eich gweithredoedd er lles y blaned yn cynyddu'n sylweddol.
2. Osgowch blastig defnydd untro
Gellir disodli eitemau fel cytleri plastig, gwellt plastig, bagiau siopa plastig, blychau bwyd a haenen lynu â dewisiadau eraill y gellir eu hailddefnyddio. Bellach ceir pob math o becynnau cytleri ailddefnyddiadwy, gellir prynu gwellt metel ailddefnyddiadwy a'u defnyddio dro ar ôl tro, yn ogystal â bagiau siopa lliain a dewisiadau naturiol yn lle haenen lynu.
3. Cariwch botel ddŵr neu gwpan coffi ailddefnyddiadwy
Drwy fynd â photel ddŵr ailddefnyddiadwy, gallwch chi ei hail-lenwi ac osgoi creu gwastraff plastig diangen, a'r un peth o ran cwpan coffi ailddefnyddiadwy. Gallwch chi hyd yn oed dderbyn disgownt ar eich coffi am ddefnyddio cwpan ailddefnyddiadwy!
4. Siopa bwyd
Pan fyddwch chi'n siopa am fwyd, prynwch fwyd sych mewn blychau cardfwrdd pan fo'n bosibl, neu gallwch swmp-brynu nwyddau sych er mwyn lleihau'r pecynnu.
Yn well fyth, os oes modd i chi fynd i Siop Dim Gwastraff, ewch â hen jariau gwydr gyda chi er mwyn eu hail-lenwi â'ch hoff nwyddau sych dro ar ôl tro.
Pan fyddwch chi'n prynu ffrwythau a llysiau, defnyddiwch fag papur os oes un, neu ewch â bag cotwm ailddefnyddiadwy er mwyn osgoi pecynnu plastig.
Os ydych chi'n yfed llaeth buwch, meddyliwch am gael llaeth mewn potel wydr wedi'i danfon gan gwasanaeth dosbarthu llaeth lleol. Mae llawer o gyflenwyr llaeth bellach yn cynnig gwasanaethau ychwanegol fel dewis o sudd ffrwyth.
Byddwch yn ddoeth wrth ddewis eich bagiau te. Yn anffodus, mae plastig mewn llawer o'r brandiau. Ceisiwch brynu bagiau te di-blastig, neu newidiwch i ddail te.
Osgowch brynu bwyd wedi'i rewi mewn pecynnu plastig pan fo'n bosibl, neu gwiriwch y côd resin plastig er mwyn gweld a yw'r bag wedi'i greu gan ddeunydd wedi'i ailgylchu. Os oes angen i chi brynu bwyd mewn pecynnu plastig, ceir manylion am eich man ailgylchu agosaf ar gyfer plastigau meddal ar wefan Cymru yn Ailgylchu.
5. Deunyddiau glanhau
Mae Siopau Dim Gwastraff bellach yn gwerthu amrywiaeth o hylifau neu bowdr glanhau, sebon dwylo a nwyddau glanhau, sy’n golygu y gallwch ailddefnyddio’r cynhwysydd dro ar ôl tro.
Fel arall, ystyriwch greu eich nwyddau eich hun a fydd yn llai tocsig ac yn osgoi’r angen am lanhawyr mewn sawl potel blastig, neu prynwch lanhawyr sych mewn blychau cardfwrdd os nad oes Siop Dim Gwastraff ar gael i chi.
6. Gofal Personol
Newidiwch boteli plastig o siampŵ, diaroglydd, hylif golchi'r corff, am ddewisiadau di-blastig, neu ailddefnyddiwch eich poteli drwy eu hail-lenwi mewn Siopau Dim Gwastraff.
Osgowch brynu cynnyrch cosmetig sy'n cynnwys microblastigau.
Prynwch bast dannedd di- blastig ar ffurf tabiau dannedd os bydd yn bosibl, a cheisiwch brynu eli wyneb ac eli corff mewn jariau gwydr y gellir eu hailddefnyddio.
Ffordd arall o osgoi plastig defnydd untro yw prynu raser sydd â llafn y gellir ei ddisodli. Ac os oes modd, newidiwch o ddefnyddio tyweli misglwyf a thamponau i ddefnyddio Cwpan Mislif.
7. Bwytai
Dewch â'ch cynhwysydd eich hun er mwyn mynd â bwyd i ffwrdd oherwydd bod llawer o fwytai'n defnyddio plastig Styrofoam nad oes modd ei ailgylchu.
8. Yn y gwaith
Ewch â phecyn cinio mewn cynhwysydd neu fag ailddefnyddiadwy a cheisiwch brynu cynwysyddion metel neu wydr yn hytrach na phlastig. Dewiswch ffrwythau neu lysiau fel byrbryd er mwyn osgoi plastigau defnydd untro, neu prynwch ginio sydd wedi'i weini mewn pecynnu y gellir ei gompostio os na allwch fynd â phecyn cinio. Ewch â photel dŵr a chwpan coffi amldro.
9. Dillad
Ceisiwch brynu dillad ail law a gwiriwch eich labeli er mwyn gweld pa ddeunydd sydd yn yr eitemau. Ceisiwch brynu dillad sydd â ffibrau naturiol ac osgowch ddillad sy'n cynnwys plastigau. Gallwch chi adfywio eich hen ddillad drwy eu huwchgylchu neu fynd â nhw i sesiwn cyfnewid dillad, neu eu rhoi i elusen.