Cynigir gweithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein. Maent fel arfer yn para rhwng 2 a 3 awr. Bydd yr union hyd yn ymddangos yn y rhestr o weithdai ar ein gwefan a bydd hefyd ar gael i'w weld yn yr e-bost o gadarnhad y byddi di'n ei dderbyn pan fyddi di'n cadw lle ar weithdy.
Os oes unrhyw addasiadau y gallwn eu gwneud i ganiatáu i ti gymryd rhan yn yr hyfforddiant, anfona e-bost i pgrtraining@abertawe.ac.uk o leiaf wythnos cyn i'r gweithdy gael ei gynnal.
Sut gallaf gadw lle ar weithdy?
Mae modd cadw lle ar gyfer gweithdai wyneb yn wyneb drwy Eventbrite. Cynhelir gweithdai ar-lein dros Zoom ac mae angen cofrestru dros Zoom hefyd. Pan fyddi di'n clicio ar y ddolen cadw lle berthnasol, byddi di'n mynd yn awtomatig i deitl y gweithdy yr hoffet ti fynd iddo ar y dudalen Gweld a Chadw Lle ar Weithdai Ymchwil Ôl-raddedig. Mae cadw lle'n hanfodol er mwyn i ni allu cynllunio ar gyfer y nifer priodol o bobl a darparu digon o adnoddau. Os nad oes modd iti ddod mwyach ar ôl cofrestru, rho wybod i ni drwy e-bostio pgrtraining@abertawe.ac.uk.
Pwy all fynd i'r gweithdai?
Gall ymchwilwyr ôl-raddedig o bob disgyblaeth ar raglenni doethurol a graddau Meistr mewn ymchwil ledled y Brifysgol gymryd rhan yn y gweithdai. Golyga hyn ei bod hi'n debygol y bydd rhai pobl yn bresennol nad wyt ti'n eu hadnabod eisoes, yn ogystal â phobl ar wahanol gamau o'u hymchwil.
Beth yw cynnwys y gweithdai?
Bydd angen cwblhau cofrestr ar ddechrau'r gweithdy a ffurflen werthuso ar y diwedd. Gallai gweithdai hefyd gynnwys cymryd rhan mewn tasgau byr, trafodaethau grŵp, gofyn neu ateb cwestiynau. Gellir cyflawni rhai gweithgareddau yn unigol ac eraill mewn grŵp. Ti sy'n cael dewis i ba raddau rwyt ti am gymryd rhan.
Pwy sy'n cyflwyno'r gweithdai?
Academyddion a staff o wasanaethau proffesiynol y Brifysgol a darparwyr hyfforddiant allanol.
Ble cynhelir y gweithdai wyneb yn wyneb?
Caiff y gweithdai wyneb yn wyneb eu cyflwyno mewn ystafelloedd addysgu ar Gampws Singleton a Champws y Bae. Fel arfer rydym yn defnyddio ystafelloedd seminar neu weithiau defnyddir labordai cyfrifiaduron personol neu ddarlithfeydd. Byddi di'n cael gwybod am leoliad y gweithdy pan fyddi di'n cofrestru.
Beth sy'n digwydd mewn gweithdy ar-lein?
Cynhelir y gweithdai ar-lein dros Zoom. I ddechrau pan fyddi di'n ymuno, byddi di'n aros yn yr ystafell aros ac yna pan fydd yn barod, bydd y darparwr hyfforddiant yn caniatáu i ti ymuno â'r gweithdy. Bydd y darparwr hyfforddiant yn dy groesawu di pan fyddi di'n ymuno ac yn egluro trefn y sesiwn. Mae'n arfer da troi dy gamera ymlaen ond os nad oes modd iti wneud hynny, bydd modd i ti gymryd rhan o hyd gan ddefnyddio'r microffon a’r opsiwn sgwrsio neu blatfformau ar-lein eraill (megis cwisiau ar-lein neu fyrddau gwyn). Efallai yr hoffet ti ddifodd dy gamera yn ystod adrannau gwybodaeth/gwrando a'i droi ymlaen eto ar gyfer trafodaethau grŵp neu weithgareddau rhyngweithiol. Os oes gennyt ti gwestiynau penodol i’r darparwr hyfforddiant, gelli di anfon neges breifat ato drwy’r opsiwn sgwrsio.
Oes angen i mi ddod ag unrhyw beth i’r gweithdy?
Ar gyfer gweithdai wyneb yn wyneb cofia ddod ag ysgrifbin a llyfr nodiadau, neu liniadur os byddai hynny’n well gennyt. Mae’n syniad da dod â diod hefyd. Os oes pethau penodol y mae angen iti ddod â nhw, rhoddir gwybod iti amdanyn nhw ymlaen llaw.
A fydd egwyl?
Am bob awr o’r sesiwn bydd egwyl a fydd yn paru rhwng 5 a 10 munud. Os bydd angen i ti gael mwy o egwyliau, rho wybod i’r darparwr hyfforddiant.
Os oes gennyt ti ragor o gwestiynau am gymryd rhan yn ein gweithdai, mae croeso i ti e-bostio pgrtraining@abertawe.ac.uk