trawstiau dur

Strwythur

Mae gan aseiniad nodweddiadol ragarweiniad, prif gorff a diweddglo. Diben y rhagarweiniad yw cyfeirio at bopeth y gall darllenydd ei ddisgwyl gan yr aseiniad. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn y prif gorff, a bydd y diweddglo'n crynhoi'r prif bwyntiau, ac yn ein cyfeirio at waith darllen neu ymchwilio ymhellach efallai.Efallai byddai'n ddefnyddiol creu delwedd o ddrafft terfynol eich aseiniad drwy ddefnyddio'r diagram isod.

Diagram yn dangos amlinelliad traethawd sylfaenol. Mae'r adrannau wedi'u labelu: Rhagarweiniad, Prif Gorff Rhan 1, Prif Gorff Rhan 2, Prif Gorff Rhan 3, Diweddglo

O amgylch y prif gorff, bydd rhagarweiniad a fydd yn cyflwyno eich dadl a diweddglo a fydd yn ailadrodd eich dadl ac yn ailddatgan eich gosodiad. Mae pob un o'r paragraffau yn y prif gorff yn cymryd cam ymlaen er mwyn datblygu'r ddadl.

Am wybodaeth fanylach am strwythuro pob adran, cliciwch ar y tabiau isod.

Rhagarweiniadau
Diagram yn dangos amlinelliad ar gyfer cyflwyniad 'twndis', lle mae'r wybodaeth a roddir yn dod yn fwy penodol wrth iddi fynd yn ei blaen. Mae'r adrannau'n cynnwys: Gwybodaeth Gyffredinol / Gyd-destunol; Diffiniadau / Cysyniadau Allweddol; Datganiad Traethawd Ymchwil

Yn aml, ysgrifennu rhagarweiniad yw’r rhan fwyaf anodd o’ch aseiniad oherwydd dyma le rydych yn cyflwyno popeth y byddwch yn ei drafod yn yr hyn sy'n dilyn. Diben rhagarweiniad yw dweud yn glir wrth y darllenydd am y prif themâu a chysyniadau yn eich aseiniad, yn ogystal â sut byddwch yn mynd i'r afael â nhw. Mae bod yn glir ac yn rhagweladwy yn allweddol wrth ysgrifennu'n academaidd, felly dylai'r rhagarweiniad weithredu fel arwyddbost, neu fap o'r traethawd; ar ôl darllen y rhagarweiniad, dylai'r darllenydd ddeall thema eich traethawd , yr hyn y byddwch yn ei ddweud, a'r hyn fydd eich casgliad. Bydd y strwythur rydym yn ei awgrymu isod yn eich helpu i gynnwys a threfnu'r wybodaeth allweddol.

Mae tair adran benodol gan y rhagarweiniad 'twndish', sy'n symud o wybodaeth gyffredinol i wybodaeth benodol, ac mae'n tywys y darllenydd drwy eich prif ddadl:

Gwybodaeth Gyffredinol neu Gyd-destunol:

Dyma le rydych yn rhoi’r wybodaeth gefndirol sy'n berthnasol i gwestiwn eich aseiniad. Gallwch ganolbwyntio ar y themâu eang y byddwch yn eu sefydlu, efallai drwy nodi ffeithiau allweddol (ystadegau, er enghraifft) a fydd yn 'fachyn' i ennyn diddordeb y darllenydd. Mae'r adran hon yn rhoi cyd-destun i'r wybodaeth rydych yn mynd i'w thrafod yn y rhan nesaf o'ch rhagarweiniad.

Diffiniadau a Chysyniadau Allweddol:

Bydd y rhan hon o'ch rhagarweiniad yn cyfeirio eich darllenydd. Bydd angen i chi gyflwyno'r cysyniadau allweddol a fydd yn sylfaen eich dadl, ac esbonio i'r darllenydd sut mae'r rhain yn berthnasol i'r themâu rydych yn eu cyflwyno yn y rhan gyntaf o'r rhagarweiniad. Efallai byddai'n ddefnyddiol meddwl bod yr adran hon o'r rhagarweiniad yn arwyddbost sy’n cyfeirio'r darllenydd at y camau y byddwch yn eu cymryd er mwyn trafod y themâu hynny.

Datganiad o’r Gosodiad:

Yr adran hon fydd diwedd eich rhagarweiniad a bydd yn darparu'r 'map manwl o'r traethawd' ar gyfer eich darllenydd. Byddwch yn nodi prif honiad eich traethawd yn natganiad y gosodiad (hynny yw, beth fydd eich prif gasgliad), a byddwch yn amlinellu'r camau byddwch yn eu cymryd er mwyn cyrraedd y casgliad (hynny yw, beth yw datblygiad eich prif ddadl).

Cwestiwn cyffredin am ragarweiniadau yw 'pa mor hir dylen nhw fod?' Nid oes ateb syml; bydd yn dibynnu ar hyd eich aseiniad. Fel canllaw, mae llawer o adrannau'n awgrymu y dylech anelu at ragarweiniad a fydd yn gyfwerth ag oddeutu 10% o'ch uchafswm geiriau cyffredinol. Yn yr un modd, er bod tair rhan i'r strwythur twndish, nid yw hyn yn golygu y bydd eich rhagarweiniad wedi'i rannu'n dri pharagraff. Bydd eich ffordd o drefnu hyn yn dibynnu ar lif eich syniadau a hyd eich aseiniad.

Y Prif Gorff - Paragraffau Y Priff Gorff - Llif Diweddglo