A large pile of paper

Ydych chi’n fyfyriwr sy’n gweithio ar ddarn hirach o waith? (er enghraifft, traethawd 5,000 o eiriau neu draethawd ymchwil) Ydych chi eisoes wedi darllen cryn dipyn? Oes braslun neu gynllun gennych i’w ddefnyddio? Mae hyn ar eich cyfer chi! Fodd bynnag, gallai rhai o’r technegau isod weithio ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ysgrifennu darnau byrrach o waith hefyd. Mae’r dulliau canlynol wedi’u harbrofi a’u profi a dyma’r rhai sydd wir yn gweithio i mi (credwch chi fi, rydw i wedi rhoi cynnig ar lawer o dechnegau gwahanol). Mae’r technegau isod ar gyfer cael drafft cyntaf ar bapur, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser ar gyfer ail-ysgrifennu a golygu ar ôl hynny.
Felly, fy awgrymiadau gorau ar gyfer hybu cynhyrchiant wrth ysgrifennu yw:

1) Ysgrifennwch yn gyntaf
Dyma’r darn o gyngor mwyaf pwysig, yn fy marn i. I fi, fy amser mwyaf cynhyrchiol yw’r bore, felly cyn gynted ag y byddaf yn eistedd wrth fy nesg (gyda choffi cryf), rydw i’n dechrau ysgrifennu. Bydd hyn cyn i mi gael brecwast, cyn i mi wisgo, ac yn bendant cyn i mi wirio fy e-byst, Facebook neu Twitter. Unwaith bod y creadigrwydd ar waith a bydd geiriau i’w gweld ar y dudalen, ni fydd yr opsiynau eraill hyn yr un mor apelgar a bydd modd i mi gael cawod ac eistedd i fwynhau fy mrecwast gan ymfalchïo yn y 500 gair sydd wedi’u cwblhau.

2) Gosodwch dargedau y gellir eu cyflawni
Yn lle meddwl ‘mae’n rhaid i mi gwblhau traethawd 10,000 o eiriau o hyd erbyn diwedd y mis’, bydda i’n penderfynu ar y nifer o rannau rydw i am eu cynnig yn y traethawd, ac yna rhannu hyn yn ôl yr amser sydd ar gael. Yna bydda i’n gosod terfyn amser pendant ar gyfer pob adran a bydda i’n glynu wrth bob un, hyd yn oed os bydd hynny’n golygu colli cwsg y noson gynt. Mae’n haws cynnal y ffordd hon o weithio am gyfnodau byr, a byddwch wir yn dechrau gweld cynnydd yn eich gwaith. Yna, unwaith bod yr holl rannau gennych, gallwch fynd yn ôl a’u perffeithio nes ymlaen.

3) ‘Parciwch gan wyneb i lawr rhiw’
Mae’r darn hwn o gyngor gan Joan Bolker yn enwedig o ddefnyddiol os ydych chi’n gwybod na fydd modd i chi ddychwelyd at yr un darn o waith am ychydig ddyddiau. Mae gen i ddogfen y byddaf yn ei diweddaru ar ddiwedd pob sesiwn, sy’n dweud wrthyf yr hyn a wnes i ddiwethaf a’r hyn y mae angen imi ei wneud nesaf. Fel hyn bydd modd i mi ddechrau gweithio yng nghanol darn o ysgrifennu. Mae ‘parcio gan wynebu i lawr rhiw’ yn golygu nad oes angen i mi ddarllen y darn o’r dechrau bob tro byddaf yn eistedd i weithio, proses a all gymryd ychydig oriau ym mhob sesiwn, yn hawdd.

4) Gwnewch y tasgau bychain wrth i chi fynd
Lluniwch restr o dasgau byr sy’n ddiflas ofnadwy y mae angen eu gwneud, er mwyn i chi gael rhywbeth i’w wneud o hyd pan fydd eich meddwl yn mynd yn araf, hyd yn oed os mai dod o hyd i gyfeirnodau, fformatio’r ddogfen neu rifo tablau fydd hi.

5) Ysgrifennwch yn aml
Ychydig bob dydd yw’r ffordd orau o weithio. Hyd yn oed ar y diwrnodau hynny pan fyddwch yn teimlo na allwch chi ysgrifennu, byddwch yn gallu ysgrifennu rhywbeth. Dywedwch wrth eich hun bod angen i chi ysgrifennu 500 neu 1000 o eiriau neu ysgrifennu am awr neu beth bynnag fydd hi, a’ch amser rhydd chi fydd gweddill y diwrnod. Yn aml, ar ôl i chi ddechrau byddwch chi am barhau, oherwydd bod pob gair yn eich tynnu’n nes at y targed.

6) Peidiwch â mireinio wrth ysgrifennu
Gadewch y gwaith sgleinio tan i chi gwblhau eich drafft cyntaf. Er enghraifft, peidiwch ag ysgrifennu’r darnau sy’n pontio’r paragraffau tan ddiwedd eich traethawd. Ar gyfer darn o waith sydd mor hir, mae’n debygol y byddwch am symud pethau o gwmpas. Ar ôl i chi benderfynu ar drefn eich traethawd, yna gallwch weithio ar berffeithio’r darnau pontio rhwng y prif syniadau.

Ar gyfer postiadau blog ynghylch bod yn gynhyrchiol wrth ysgrifennu (neu pan fo ysgrifennu’n gyflym yn briodol), gweler y darnau canlynol:

Archwilio Arddull:  Blog ynghylch Ysgrifennu Academaidd

The Thesis Whisperer

Lizzy Tanguay

llun o Lizzie Tanguay