graff llinell

Os oes angen i chi loywi eich sgiliau ystadegol neu feithrin a datblygu eich gwybodaeth bresennol, gallwn ni eich helpu i gyrraedd eich nod.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar thema Ystadegau.


Dydd Iau 7fed Tachwedd 2024

Profi Hypothesis

Mae'r gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ddadansoddiad ystadegol o ddata meintiol, gan gyflwyno dadansoddi data a phrofi hypothesis: Byddwn yn siarad am y cysyniad o brofi hypothesis, a'r rheswm pam mae hwn yn ddull hanfodol ar gyfer cynnal ein dadansoddiadau.

  Campws Bae
  Dydd Iau 7fed Tachwedd 2024
  13:00 - 14:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Siart wedi'i argraffu ar bapur

Profi Hypothesis ar Waith

Gan ddefnyddio setiau data penodol, gofynnir i chi lunio hypothesis, dewis profion ystadegol a dehongli canlyniadau. Byddwn yn gweithio yn y rhaglen R ac anogir myfyrwyr i ddilyn. Bydd y dadansoddiad ystadegol yn cynnwys dadansoddiadau cyffredin megis t-test, chi-squared a dadansoddi cydberthynas.

 Campws Bae
  Dydd Iau 7fed Tachwedd 2024
  14:00 - 15:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Siart wedi'i argraffu ar bapur

Dydd Iau 14eg Tachwedd 2024

Profi Hypothesis ar Waith

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno profion dadansoddi ystadegol mwy cymhleth ond cyffredin: dadansoddiad atchweliad. Gan weithio yn y rhaglen R, bydd myfyrwyr yn cael setiau data ac yn gweithio drwy'r dadansoddiad ystadegol a'r dehongliad priodol (gan gynnwys atchweliad llinellol ac atchweliad model cymysg).

 Campws Bae
  Dydd Iau 14eg Tachwedd 2024
  13:00 - 14:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Siart wedi'i argraffu ar bapur

Delweddu Data

Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar ddelweddu data, bydd myfyrwyr yn gweithio drwy'r ffordd orau o ddelweddu canlyniadau dadansoddi ystadegol mewn ffordd ystyrlon.

 Campws Bae
  Dydd Iau 14eg Tachwedd 2024
  14:00 - 15:00 BST

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Siart wedi'i argraffu ar bapur