gliniadur

Sgiliau digidol yw'r ffordd rydych yn trin, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth a chynnwys gan ddefnyddio offer a phlatfformau digidol. Mae hyn yn cynnwys datrys problemau, arloesi, a chreu cynnwys a chyfryngau digidol, yn academaidd ac yn broffesiynol.

Yma gallwch archwilio’r gweithdai byw sydd gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd i’w cynnig dros yr ychydig wythnosau nesaf ar y thema Sgiliau Digidol.

LaTeX Canolradd

Mae'r gweithdy canolraddol hwn yn adeiladu ar y gweithdy Ymgyfarwyddo â LaTex drwy archwilio'r pecyn cyflwyno yn LaTex o'r enw Beamer. Byddwn hefyd yn ymdrin â phecynnau mwy cymhleth mewn LaTeX ac yn edrych ar sut i'w defnyddio.

 Campws Bae
 Dydd Iau 27ain Mawrth 2025
 12:00 - 13:00 GMT

Cofrestrwch ar gyfer y gweithdy hwn
Meddalwedd LaTeX ar gyfrifiadur