Bydd y gweithdai hyn yn addas i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Maent yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n angenrheidiol i ysgrifennu'n llwyddiannus am ymchwil. Mewn amgylchedd cydweithredol, byddwch yn datblygu arferion ysgrifennu da, yn gwella eich sgiliau ysgrifennu academaidd ac yn dysgu sut i fyfyrio’n feirniadol ar ddrafft eich traethawd estynedig.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys y ddwy sesiwn ganlynol sy'n para dwy awr - gallwch ddewis pa weithdai i gymryd rhan ynddynt wrth gofrestru:

Fformatio traethawd ymchwil

Mae gwaith wedi'i gyflwyno'n dda yn ennill graddau uwch. Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn addysgu’r holl awgrymiadau ac argymhellion i chi er mwyn gwneud y gorau o Microsoft Word. Byddwch yn dysgu sut i fodloni safonau academaidd a rhoi golwg broffesiynol ar eich gwaith.

Campws Singleton
Dydd Mawrth 8fed Ebrill 2025
10:00 - 12:00 GMT

 gwaith wedi'i gyflwyno'n dda

Cofrestrwch ar gyfer sesiwn 6 o 6
Myfyriwr hapus gyda dogfen wedi'i chyflwyno'n dda