Mae Llwyddiant Academaidd yn gwrs Canvas a luniwyd i’ch cefnogi chi wrth i chi ymgartrefu yn y Brifysgol. Bydd yr adrannau’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar eich nodau, datblygu dealltwriaeth o werthoedd craidd uniondeb academaidd ac yn addysgu’r sgiliau newydd hanfodol i chi y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym myd addysg uwch. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar yr holl wasanaethau sydd ar gael os bydd angen cymorth arnoch chi.
Llwyddiant Academaidd: Sgiliau ar Gyfer Dysgu, Sgiliau am Oes (Meddygaeth, Gwyddorau Iechyd a Bywyd)

CWRS 1: Beth yw diben Addysg Uwch?
Bydd yr crws hon yn eich cyflwyno chi i sut brofiad yw bywyd ac astudio yn y Brifysgol a bydd yn rhoi cyngor ar sut i wneud y mwyaf o’ch amser yma. Byddwch chi hefyd yn dysgu am ffynonellau cyngor, arweiniad a chymorth.

CWRS 2: Cyflwyniad i sgiliau myfyrwyr
Sicrhewch ddechreuad da yn y Brifysgol drwy ddysgu’r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn llwyddo’n academaidd. Yn yr crws hon, byddwch chi’n dysgu am ddulliau dysgu gwahanol er mwyn eich helpu chi i gyflawni eich potensial a’r arddulliau addysgu y byddwch chi’n dod ar eu traws yn ystod eich amser yma.
