Ty Fulton
Students walking through a bustling area of Fulton House
Ty Fulton

Tŷ Fulton yw'r prif adeilad ar Gampws Singleton ar gyfer lleoedd arlwyo a siopau, y ffreutur, ac wrth gwrs, far JCs.

Ym mlaen yr adeilad, gyferbyn â Tortilla a Greggs, mae lle i chi eistedd ac ymlacio, cwrdd â chyd-fyfyrwyr a dal i fyny ar eich astudiaethau*.

*Nodwch fod Tŷ Fulton yn debygol o fod yn brysur iawn yn ystod oriau dysgu arferol, ac nad yw'n cael ei argymell fel lle i astudio'n dawel.

Oriau Agor

  • Mae’r adeilad ar agor 24/7 o ran y mannau agored/coridorau a chyfleusterau ystafelloedd ymolchi yn unig.
  • Mae'r amseroedd agor ar gyfer Bar JCs a'r siopau sy'n cael eu rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ar gaelyma.
  • Mae amseroedd agor lleoedd arlwyo Tŷ Fulton sydd o dan reolaeth y Brifysgol yma.

Oes angen cadw lle?

Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

Cyfleusterau sydd ar gael

Seddi arddull caffi, yn agos at ystafelloedd ymolchi a mynediad (cyfyngedig) i socedi trydan.

ROOM ICONS