Ystafell Gyffredin Yr Ysgol Reolaeth
Atriwm yr Ysgol Reolaeth
School of Management Common Room

Mae’r ystafell gyffredin  y tu ôl i atriwm llawr gwaelod yr Ysgol Reolaeth, ac mae’n cynnig man hyfryd i gwrdd er mwyn astudio neu ymlacio. 

Mae'r gofod dysgu/cymdeithasol hwn yn cynnig amrywiaeth o opsiynau eistedd, gan gynnwys byrddau a soffas a phodiau cyfforddus a llawer o lefydd lle gallwch blygio i mewn a gwefru’ch dyfeisiau.

Oriau Agor

08:00 - 21:00 o ddydd Llun i ddydd Sul.

Oes angen cadw lle?

Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

 Cyfleusterau sydd ar gael

Mae Ystafell Gyffredin yr Ysgol Reolaeth yn cynnig ystod o gyfleusterau gan gynnwys peiriant gwerthu, boeler berwi dŵr a microdon, ffynnon ddŵr a digon o lefydd i wefru eich dyfeisiau cludadwy.

ROOM ICONS