Engineering Central Room A006
Engineering Central Room A006 - Room facilities icon
Engineering Central Room A006 - Kitchen facilities including Microwave and water dispenser

Mae ystafell A006, neu’r Ganolfan, ar lawr gwaelod Adeilad Canolog Peirianneg, ger yr atriwm sydd ar ochr ddeheuol yr adeilad.

Mae'r gofod dysgu llawr gwastad mawr hwn yn cynnig cymysgedd o seddi wrth ddesg a seddi cyfforddus, yn ogystal â phod preifat ar gyfer cyfarfodydd a gwaith grŵp, ac mae mewn lleoliad cyfleus yn agos at ystafelloedd ymolchi a chaffi Change Please (Coffeeopolis).

Oriau Agor

08:00 - 21:00 o ddydd Llun i ddydd Sul.

Oes angen cadw lle?

Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.

Cyfleusterau sydd ar gael

Mae’r Ganolfan yn cynnig ystod o gyfleusterau gan gynnwys boeler berwi dŵr a microdon, ffynnon ddŵr a digon o lefydd i wefru eich dyfeisiau cludadwy.

Ewch ar daith rithwir

ROOM ICONS