Mae ceisiadau Cynrychiolydd Pwnc ar gyfer y flwyddyn academaidd 23/24 ar agor!

Mae’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yn dymuno recriwtio ein Cynrychiolwyr Myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24, a hoffem eich gwahodd i gymryd rhan!

Felly beth yw gwaith Cynrychiolydd Myfyrwyr?

Yn fras, Cynrychiolwyr Myfyrwyr yw’r cyswllt rhyngoch chi a’ch Ysgol. Maen nhw’n coladu eich adborth, yn cyfleu eich barn i’r Brifysgol ac yn gweithio gyda staff i wneud gwelliannau i’ch addysg.

Nid ydym yn dweud na all yr holl fyfyrwyr droi at eu darlithwyr neu staff y Gyfadran os oes ganddynt broblem neu awgrym, ond mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn rhan o bwyllgorau’r brifysgol, felly gallant gyflwyno eich adborth yn uniongyrchol i staff a gweithio ar atebion i wella eich profiad.

Mae’r holl gynrychiolwyr yn derbyn hyfforddiant a’r cyfle i fynd i weithdai arbenigol. Nid yn unig y mae hyn yn wych ar gyfer eich CV, mae’n waith hynod wobrwyol hefyd!

Yn swnio fel y peth i chi?

Sefwch i fod yn Gynrychiolydd! Does dim angen profiad arnoch, dim ond angerdd i wella profiad y myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Sut mae cofrestru?

Rolau etholedig yw cynrychiolwyr myfyrwyr, ond peidiwch â phoeni, mae’n broses hawdd iawn.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i wefan Undeb y Myfyrwyr, cyflwyno eich enw gyda maniffesto a llun. Datganiad byr yw eich maniffesto sy’n esbonio pam y byddech yn gynrychiolydd gwych.

Bydd y cyfnod pleidleisio’n agor ar 5 Mai a bydd angen i’ch cyd-fyfyrwyr fynd i www.swansea-union.co.uk/elections i fwrw eu pleidlais. Ar ôl i’r etholiadau gau, bydd y pleidleisiau’n cael eu cyfrif a bydd yr holl ymgeiswyr yn cael gwybod beth yw’r canlyniadau.