Os teimlwch fod angen cymorth ar frys arnoch i ddatrys eich anawsterau, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu neu GIG Cymru drwy ffonio 111 i dderbyn unrhyw ofal a chymorth statudol y gallai fod eu hangen arnoch. Os oes angen gwybodaeth arnoch, neu os ydych yn poeni am rywbeth, yn gofidio neu'n teimlo'n ddryslyd, neu os oes angen rhywun i wrando arnoch, mae'r SAMARIAID yn darparu cymorth emosiynol cyfrinachol, 24 awr y dydd. E-bostiwch jo@samaritans.org neu ewch i www.samaritans.org neu ffoniwch (o'r DU) 116 123.