Students smiling with unibuddy logo

Cyfle i sgwrsio â myfyrwyr newydd!

Wyt ti'n gofyn i di dy hun sut byddi di'n gwneud ffrindiau yn y brifysgol?

Ymuna â'n cymuned newydd ar-lein i fyfyrwyr a fydd yn dechrau ym Mhrifysgol Abertawe yn 2023, lle gelli di gysylltu â myfyrwyr o'r un meddylfryd a gwneud ffrindiau newydd. Gelli di gwrdd â chyd-breswylydd newydd, darganfod y cymdeithasau gorau neu gwrdd â phobl sy'n dwlu ar fwyd fel ti. Beth bynnag rwyt ti'n ei fwynhau, byddi di'n dod o hyd i fyfyrwyr sy'n rhannu dy ddiddordebau yma.

Ymuna â'r gymuned drwy ap Swansea Uni Arrivals.