Nod y rhaglen Myfyrwyr a Mwy yw cefnogi myfyrwyr-ofalwyr, ymadawyr gofal, myfyrwyr sy’n teithio bob dydd, myfyrwyr aeddfed, myfyrwyr sy’n rhieni, myfyrwyr sydd wedi’u hymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd neu rywun sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod o ohirio astudiaethau.

Rydym yn cydnabod y gall anghenion aelodau’r rhaglen Myfyrwyr a Mwy fod yn wahanol i weddill y gymuned o fyfyrwyr, felly hoffem eich gwahodd i ddiwrnod croeso lle gallwch wrando ar sgyrsiau gan Wasanaethau Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr ac academyddion, i gyd wedi’u teilwra i’ch anghenion chi. Hefyd, bydd cyfle i gwrdd â phobl, gofyn cwestiynau i amrywiaeth eang o staff y Brifysgol a dechrau gwneud cynlluniau ar gyfer eich blwyddyn gyntaf fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe.

Gelli di gymryd rhan yn y digwyddiad wyneb yn wyneb neu ar-lein, mae croeso i ti ddewis yr un sydd orau i ti.

Grŵp o fyfyrwyr yn dal gliniaduron a thabledi

Sylwer ar y materion pwysig canlynol:

  • Os byddi di'n dewis sesiwn sefydlu ar-lein, anfonir gwahoddiad Zoom atat ti ychydig ddiwrnodau cyn y sesiwn.
  • Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn felly cofiwch gofrestru’n gyflym os hoffech gymryd rhan ynddo. Rhowch wybod i ni os nad ydych yn gallu cymryd rhan fel y gallwn gynnig y tocyn i rywun arall.

Os oes gennych ymholiadau am y digwyddiad, e-bostiwch Welfare@CampusLife.

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan!

Tîm Llesiant@BywydCampws