Beth yw hyn?

Mae gan Llesiant@BywydCampws docynnau campfa a nofio am un mis ar gael i fyfyrwyr. Mae'r tocynnau hyn yn cynnwys mynediad i'r gampfa, dosbarthiadau ffitrwydd ar Gampws y Bae a Singleton, yn ogystal â'r pwll cenedlaethol.

Pam rydym yn gwneud hyn?

Mae gweithgarwch corfforol yn gwella eich iechyd meddwl a chorfforol. Rydym wedi prynu'r tocynnau hyn fel dull arall o gymorth i helpu myfyrwyr i ategu'r gwasanaethau a mentrau cyngor presennol.

Rydym yn deall nad mynd i'r gampfa neu fynd i ddosbarth ymarfer corff yw'r ateb i bob myfyriwr, ond rydym yn gobeithio y bydd yn gallu helpu rhai ohonoch. I gael mwy o gymorth amgen clinigol/nad yw’n gynghorol arall, dylech ystyried cofrestru ar gyfer digwyddiadau BywydCampws, sesiynau Bod yn Actif, ymaelodi â chymdeithas neu wirfoddoli gyda Discovery.

Sut rydw i'n cyflwyno cais am docyn? - Y Weithdrefn

Adborth

Rydym yn croesawu eich adborth ac yn gwrando ar bopeth sydd gennych i'w ddweud er mwyn gwella'r tocyn campfa a nofio i fyfyrwyr eraill. A wnewch chi lenwi'r ffurflen adborth cyflym i ddweud wrthym am eich profiad.

Cwestiynau Cyffredin