Dod o hyd i dŷ
Bydd dod o hyd i lety sy'n cael ei rentu'n breifat fel arfer yn golygu defnyddio asiant gosod. Mae asiantiaid gosod fel arfer yn codi ffïoedd am rai rhannau o'r broses osod. Ni all asiantiaid gosod godi tâl arnoch chi am gofrestru gyda nhw neu weld eiddo. Peidiwch â thalu os yw asiant yn gofyn i chi am arian am y gwasanaethau hyn.
Os nad ydych chi'n siŵr, defnyddiwch Wasanaethau Llety Myfyrwyr, a elwir hefyd yn SAS Lettings. Dyma fenter ar y cyd rhwng y Gwasanaethau Preswyl ac Undeb y Myfyrwyr. Fe'i sefydlwyd i'ch helpu chi i ddod o hyd i lety addas, o safon yn y sector preifat. Gall SAS Lettings roi cymorth i chi ddod o hyd i lety yn eich ail, trydedd a phedwaredd flwyddyn.
Contractau
Mae'r rhan fwyaf o gontractau i fyfyrwyr am gontractau tenantiaeth fyrddaliol sicr am 12-9 mis. Byddwch chi fwy na thebyg ar gontract cyd-denantiaeth â'ch cyd-breswylwyr. Golyga hyn y byddwch chi oll yn gydgyfrifol am ofalu am yr eiddo a thalu'r rhent. Os yw un ohonoch chi'n symud allan, byddai gweddill y cyd-breswylwyr yn gyfrifol am dalu ei ran o'r rhent. Cofiwch ofyn i'r landlord am yr hyn mae'ch contract yn ei ddweud am rent dros wyliau'r haf. Mae'r rhan fwyaf o gontractau yn disgwyl i chi dalu o leiaf hanner y rhent dros wyliau'r haf.
Gwarantwyr
Bydd yn rhaid i chi fwy na thebyg enwi gwarantwr a fydd yn atebol am dalu eich rhent os ni ellir talu eich rhent. Mae gwarantwr fel arfer yn rhiant neu'n warcheidwad. Mae'n bwysig nad ydych chi byth yn colli taliad oherwydd mae gan eich landlord yr hawl i'ch tywys chi a'ch gwarantwr gerbron y llys.
Blaendaliadau
Bydd angen i chi dalua blaendal tentaniaeth, sydd fel arfer yn cyfwerth agi un mis o’ch’ rhent, chi yn.cyn i chi symud i mewn. Diben blaendal tenantiaeth yw talu cost unrhyw rent nad yw'n cael ei dalu, neu dalu am unrhyw ddifrod a achosir i'r eiddo yn ystod eich tenantiaeth. Caiff eich blaendal ei ddychwelyd i chi, gyda didyniadau neu hebddynt, ar ddiwedd eich tenantiaeth. Dylai'ch landlord roi'ch blaendal mewn cynllun diogelu blaendal yn fuan ar ôl i chi ei roi iddo. Bydd hyn yn diogelu'ch blaendal nes i chi symud allan