Mae myfyrwyr aeddfed yn dechrau addysg uwch am nifer o resymau gwahanol gan gynnwys er mwyn newid gyrfa, diweddaru cymwysterau, neu ar ôl datblygu diddordeb penodol, a llawer mwy o resymau. Beth bynnag yw eich rheswm, rydym yn cydnabod y gall eich anghenion fod yn wahanol o’r rhai sy’n gadael yr ysgol. Mae Lles@BywydCampws yma i’ch cefnogi fel eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y Brifysgol.
Myfyrwyr Hŷn
Myfyrwyr Aeddfed

Cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol
Pan fyddwch yn aros i ddechrau eich cwrs, dilynwch yr argymhellion hyn er mwyn cael y dechrau gorau posibl i’ch bywyd yn y Brifysgol.
Cyfathrebu cyn cyrraedd – Cadwch lygad am e-byst o Brifysgol Abertawe cyn i chi gyrraedd. Maen nhw’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol y mae angen i chi ei gwybod, yn ogystal â digwyddiadau i chi gofrestru ar eu cyfer cyn i’r tymor ddechrau neu ar ôl hynny. Os oes modd, ceisiwch fynd i’r Babell Gyrraedd dros y penwythnos cyn i Wythnos y Glas ddechrau. Fan hyn, gallwch gwrdd â chynrychiolwyr o’ch Coleg, yn ogystal â gwasanaethau eraill o’r Brifysgol gan gynnwys BywydCampws.
Trafnidiaeth – Fel myfyriwr aeddfed, mae’n fwy tebygol y byddwch hefyd yn cymudo i’r Brifysgol. Os ydych yn bwriadu cymudo mewn car, byddwch yn barod i gael trafferth wrth barcio. Oherwydd y boblogaeth gynyddol o fyfyrwyr a staff, fel rheol, nid yw’r Brifysgol yn cynnig parcio i fyfyrwyr. Nid oes modd i fyfyrwyr barcio ar Gampws y Brifysgol yn Singleton, ac mae’n bosibl y bydd angen i chi chwilio am feysydd parcio talu ac arddangos gerllaw neu barcio a theithio. I gael gwybodaeth am amseroedd bysiau, llwybrau a sut i gael eich trwydded myfyriwr neu gerdyn teithio ar drenau, ewch i’r Siop Deithio ar Gampws Singleton yn Nhŷ Fulton. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y dolenni defnyddiol isod.
Wythnos Sefydlu – Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn eich amserlen sefydlu gan eich coleg. Fel arfer, bydd darlithoedd cyflwyno yn eich adran a’r gwasanaethau cymorth yn ystod yr wythnos cyn i ddarlithoedd ddechrau. Ewch i’r rhain os oes modd, nid gwybodaeth ddefnyddiol yn unig y cewch yma yn unig, ond mae hefyd yn gyfle i gyfarfod â phobl ar eich cwrs a gwneud ffrindiau.
Ffair y Glas – Mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu Ffair y Glas bob blwyddyn ar y ddau gampws. Mae’n gyfle i chi gael gwybodaeth am yr holl glybiau chwaraeon a chymdeithasau sydd ar gael i chi ymuno â nhw. Mae rhywbeth at ddant pawb – peidiwch ag osgoi mynd oherwydd eich bod yn fyfyriwr aeddfed, bydd gennych brofiad a fydd o fantais i unrhyw glwb neu gymdeithas!
Digwyddiadau Wythnos y Glas – Mae’r rhain ar gyfer POB myfyriwr. Mae’n bosibl na fyddwch ag awydd mynd i’r partïon a’r dawnsiau, ond os ydych yn dymuno mynd iddynt, ewch amdani! Eich undeb myfyrwyr chi yw Undeb y Myfyrwyr, yn yr un modd ag y mae i fyfyrwyr iau. Mae hefyd gennych Swyddog Myfyrwyr Aeddfed rhan-amser yn Undeb y Myfyrwyr sydd yno er mwyn bod yn llais ar eich cyfer. A ydych yn credu bod rhywbeth ar goll neu a oes gennych syniad da? Rhowch wybod i’ch Swyddog a mynnwch ddweud eich dweud.
Ymgyfarwyddwch – Casglwch fap o’r campws o dderbynfa’r Coleg neu’r Brifysgol ac ewch ati i archwilio. O bryd i’w gilydd gall teimlo nad oes modd i chi fynd i rannau o’r campws, neu eu bod yn codi ofn arnoch. Mae’r cyfleusterau at eich defnydd chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a dylech gymryd mantais o’r hyn sy’n cael ei gynnig i chi. Ewch i ddod o hyd i’r holl gaffis, siopau a bariau, a sicrhewch eich bod bob amser yn gwybod ble i gael coffi gyda’ch ffrindiau ar y cwrs. Ewch i archwilio’r llyfrgell. Gofynnwch i’r ddesg gymorth a oes unrhyw gyflwyniadau i’r llyfrgell yn cael eu cynnal a chewch y wybodaeth ddiweddaraf gan lyfrgellydd pwnc i weld lle y gellir dod o hyd i lyfrau.
Meddyg Teulu – Os nad ydych wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol, gallwch gofrestru gyda’r Ganolfan Iechyd Myfyrwyr yn Nhŷ Penmaen, Campws Singleton, neu Ganolfan Iechyd SA1 ger Campws y Bae. Gweler y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth.
Pan fydd darlithoedd yn dechrau
Cofrestru gyda’ch Coleg – Ewch i gasglu eich amserlen gan y Coleg a’i chymharu â map y campws. Sicrhewch eich bod yn gwybod ble mae eich darlithoedd a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i gyrraedd yno. Ewch i’r arfer o wirio eich e-bost myfyriwr bob dydd. Dyma’r ffordd y bydd y Brifysgol, y gwasanaethau cymorth a’r Coleg yn cyfathrebu â chi.
Cwrdd â’ch Mentor Academaidd – Gall eich Mentor Academaidd fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar eich cyfer yn y Brifysgol. Gallant eich cefnogi gyda chyngor academaidd, canllawiau o ran gyrfa a’ch cyfeirio at y bobl orau ar gyfer ymholiadau eraill.
Ble i ddod o hyd i staff gweinyddol eich Coleg – Dyma’r bobl gyfeillgar a all ateb eich cwestiynau am eich cwrs, eich helpu i newid modiwlau, siarad am bresenoldeb a’ch cefnogi i wneud cais am Amgylchiadau Esgusodol neu Ohirio Arholiadau os ydych yn profi anawsterau. Gweler y ddolen isod i gael gwybod am bwy i gysylltu â nhw yn eich Coleg.
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr
Academi Cyflogadwyedd Abertawe
Nid yw byth yn rhy gynnar neu’n rhy hwyr i gael cyngor gyrfaol. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn cynnig ystod eang o wasanaethau ac adnoddau, sydd ar gael i bob myfyriwr a chyn-fyfyriwr (hyd at bum mlynedd ar ôl graddio) o Brifysgol Abertawe, gan gynnwys:
- Gweithdai cyflogadwyedd, sgyrsiau gan gyflogwyr, digwyddiadau pwrpasol a ffeiriau gyrfaoedd.
- Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe (a gofnodir yn eich Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch).
- Rhaglenni profiad gwaith.
- Adnoddau ar gyfer chwilio am swydd, dod o hyd i waith pan rydych yn astudio a gwirfoddoli.
- Cyngor a chanllawiau unigol gan Gynghorwyr Gyrfaoedd proffesiynol cymwysedig.
- Mynediad at wybodaeth am ystod eang o bynciau rheoli gyrfaoedd.
- Cyngor a chanllawiau ar astudiaethau a chyllid ôl-raddedig.
Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd
Fel Myfyriwr Aeddfed, mae’n bosibl bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio ers i chi fod mewn addysg ers y tro diwethaf. Am y rheswm hwn, efallai y byddwch yn teimlo y gallwch elwa ar rywfaint o gymorth ychwanegol i fireinio eich sgiliau academaidd. Mae’r Rhaglen Llwyddiant Academaidd yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau megis sgiliau ysgrifennu academaidd, sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau cyflwyno, yn ogystal ag apwyntiadau un-i-un gyda chynghorwr.
Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr
Mae’r Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu cynhwysol i bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r Gwasanaethau’n cynnwys y timau canlynol:
Anabledd – Cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol neu anhawster dysgu penodol i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr un cyfleoedd â phawb arall.
Asesiad – yng Nghanolfan Asesu Abertawe, rhoddir eich profiadau wrth wraidd y broses asesu. Ein nod yw sicrhau bod modd i chi ddefnyddio eich cymorth lwfans i fyfyrwyr anabl (DSA) i astudio gyda’r hyder mwyaf posibl, wrth fod yn barod ar gyfer yr heriau a allai ddigwydd wrth i chi ddatblygu drwy eich cwrs.
Lles – Gwasanaeth penodol ar gyfer cefnogi eich lles tra eich bod ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys cefnogi myfyrwyr sydd â chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig, gweithdai, cwnsela a mentora.
BywydCampws
Mae’r gwasanaethau BywydCampws yn cydweithio i ddarparu cyngor, canllawiau a gwybodaeth er mwyn cynnig cymorth proffesiynol i chi yn ystod eich profiad yn y Brifysgol. Mae BywydCampws yn cynnwys y timau canlynol:
Lles@BywydCampws – Mae Lles@BywydCampws yma i roi cyngor ymarferol a chymorth am nifer o faterion gwahanol sy’n ymwneud â lles y gallwch fod yn eu hwynebu yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwn yn cydweithio â chi a’ch Coleg i sicrhau eich bod yn cael y profiad myfyriwr gorau posibl. Edrychwch ar yr adnoddau hunangymorth i fyfyrwyr i gael cyngor ymarferol a chanllawiau am amryw o faterion lles.
Rhyngwladol@BywydCampws – Mae’r tîm Rhyngwladol@BywydCampws yn rhoi gwybodaeth a chyngor am bob mater nad yw’n academaidd, gan gynnwys cyngor a gwasanaethau am fewnfudo i bobl myfyriwr rhyngwladol a’r sawl sy’n dibynnu arnynt.
Arian@BywydCampws – Mae’r tîm Arian@BywydCampws arobryn yma i helpu bob myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe gyda phob mater sy’n ymwneud ag arian. Mae’r tîm yn ymdrin ag ystod eang o fyfyrwyr sydd ag amgylchiadau a chefndiroedd gwahanol, ac maent ar gael i roi gwybodaeth, cyngor a chanllawiau lle bo angen.
Ble i fynd i gael rhagor o gymorth
Cymorth sydd ar gael
Trafnidiaeth
Undeb y Myfyrwyr
Student Union Officers
Societies
Sports Clubs
Student Union Advice Centre
Mapiau o’r campws:
Campws y Bae Campws Singleton
Meddyg Teulu
Tîm Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr y Gyfadran
Gallwch gysylltu â'r staff Gwybodaeth / Profiad Myfyrwyr yn eich cyfadran sy'n gallu cynnig cyngor ymarferol ac arweiniad a'ch cyfeirio i'r gwasanaethau priodol.
Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr