Bydd angen i chi ddarparul tystiolaeth wedi'i dyddio o fewn y 12 mis diwethaf i brofi eich statws gofalwr. Dylai hyn ymwneud â'ch cyfrifoldebau gofalu chi nid y person rydych chi'n gofalu amdano.
Gallai enghreifftiau gynnwys llythyr gan eich meddyg teulu neu weithwyr meddygol proffesiynol eraill, y sector gwirfoddol neu'r ysgol yn cadarnhau eich statws gofalwr. Mae'n rhaid bod y llythyr neu'r e-bost ar bapur pennawd a rhaid iddo gynnwys y canlynol:
- eich enw,
- pwy rydych chi'n gofalu amdano,
- cadarnhad mai chi yw'r prif ofalwr ar gyfer y person hwn,
- amlinelliad byr o'r gofal rydych chi'n ei roi
Gallwch hefyd ddefnyddio derbynneb Lwfans Gofalwr blaenorol.
Sylwer: Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth os ydych chi'n parhau i gael mynediad at y cymorth i ofalwyr ar hyd eich astudiaethau. Os bydd eich cyfrifoldebau gofalu yn newid yn ystod eich astudiaethau, disgwylir i chi hysbysu Cyfranogiad@BywydCampws am y newidiadau hyn.