Cymorth ym Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd wedi bod mewn gofal neu sydd wedi'u dieithrio o'u teulu.

Mae Cyfranogiad@BywydCampws yn darparu cyngor, cyfleoedd a gwybodaeth bwrpasol i ymadawyr gofal cymwys a myfyrwyr cymwys sydd wedi'u dieithrio o'u rhieni. Gallwn ni eich helpu chi i gael mynediad at wybodaeth ac arweiniad ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys llety, cymorth academaidd a chyllid gan eich galluogi chi i wneud penderfyniadau cadarnhaol a gwybodus am eich astudiaethau a'ch profiad yn y brifysgol.

Mae'r wybodaeth isod yn amlinellu'r pecyn cymorth ar gyfer ymadawyr gofal cymwys.Os oes gennych brofiad o ofal, wedi bod o dan ofal gwarchodaeth, rhieni sydd wedi marw neu'n byw mewn llety a gefnogir gan yr awdurdod lleol, cysylltwch â ni i drafod eich amgylchiadau ac i sefydlu'r cymorth sydd ar gael i chi.

CYSYLLTWCH Â NI

Os hoffet ti gysylltu â ni, e-bostia participation.campuslife@abertawe.ac.uk 

Mae’n rhaid i fyfyrwyr presennol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost myfyriwr wrth gysylltu â Cyfranogiad@BywydCampws.