Pedwar myfyriwr yn eistedd ar draeth cerrig mân, yn siarad â'i gilydd.

Gofyn am Asesiad fel Myfyriwr sydd wedi'i ddieithrio o'i deulu

Ystyrir bod myfyrwyr wedi'u dieithrio o'u teuluoedd os yw'r berthynas â'u rhieni wedi methu ac nid oes modd rhagweld cyfle i gymodi. Os ydych wedi ymddieithrio o'ch rhieni, gallwch ofyn i'ch darparwr cyllid eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad; fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd eich cais yn cael ei dderbyn.

Er mwyn cyflwyno cais i gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad, bydd angen i chi roi tystiolaeth addas i'ch darparwr cyllid ar ffurf llythyr(au) neu adroddiad(au) gan weithwyr proffesiynol a phobl uchel eu parch yn y gymuned e.e. yr heddlu, meddygon, gweithwyr cymdeithasol etc sy'n dangos eich ymddieithriad parhaus. Bydd un llythyr neu adroddiad ansawdd sylfaenol yn dderbyniol, ond mae croeso i chi gyflwyno pecyn o dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth eilradd os dymunwch.

Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'ch ymddieithriad a'r dystiolaeth a ddarparwyd, os  derbynnir eich cais, gallech gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad ar gyfer y flwyddyn academaidd neu hyd eich cwrs. 

Ni allwch ofyn i gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol yn sgîl ymddieithrio o'ch teulu oherwydd:

  • Nad yw eich rhieni yn eich cefnogi'n ariannol
  • Nid ydych yn cyd-dynnu â'ch rhieni ond rydych yn dal i fod mewn cysylltiad
  • Nid ydych chi'n byw gyda'ch rhieni

Os ydych yn cael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad, byddwch yn gallu cael mynediad at gyllid myfyrwyr ar y gyfradd annibynnol ac ni fyddwch yn cael prawf modd yn seiliedig ar incwm aelwydydd rhieni. 

Mae'n bwysig nad ydych yn ceisio cael na chyflwyno unrhyw ddogfennau neu ddatganiadau a fydd yn peryglu eich diogelwch personol, eich iechyd neu'ch lles.

Os oes gennych gwestiynau am y broses o gael eich asesu â statws annibynnol o ganlyniad i'ch dieithriad, fe'ch anogir i siarad â'ch darparwr cyllid yn y lle cyntaf. 

Os gwrthodir eich cais i gael ei asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich ymddieithriad o'ch teulu a hoffech apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, neu os ydych yn cael trafferth wrth gael y dystiolaeth ofynnol, bydd Arian@BywydCampws yn gallu darparu cyngor ac arweiniad ychwanegol. Ceir manylion cyswllt Arian@BywydCampws yma.

Hefyd, mae gan yr elusen Stand Alone Ganllaw Cyllid Myfyrwyr sy'n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am gyflwyno cais i gael eich asesu fel myfyriwr annibynnol oherwydd eich bod wedi ymddieithrio o'ch teulu, a gellir gweld hwn yma.