Mae angen cydsyniad ar gyfer nifer o bethau yn ein bywyd pob dydd.

Yn gyffredinol, cydsyniad yw cael caniatâd neu gymeradwyaeth ar gyfer rhywbeth cyn i chi fynd ati i'w wneud. Ar y dudalen hon, byddwn ni'n edrych ar sut mae cydsyniad yn berthnasol i berthnasoedd rhywiol, sut olwg sydd arno ac, yn bwysicaf oll, yr hyn nad yw cydsyniad.

Mae rhywun yn cydsynio i weithred rywiol os yw'n cytuno drwy ddewis  ac os oes gan yr unigolyn y rhyddid  a'r gallu i wneud y dewis hwnnw.

Os bydd rhywun yn dweud ‘na’ i unrhyw fath o weithred rywiol, nid yw’n cytuno i’r weithred.

Ond, os na fydd rhywun yn dweud ‘na’ yn uchel, nid yw hynny’n golygu’n awtomatig eu bod yn cytuno i’r weithred chwaith.

Rhaid bod cydsyniad...

Ni ellir rhoi cydsyniad pan:

  • fydd rhywun yn anymwybodol neu'n cysgu
  • Bydd rhywun o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
  • Bydd rhywun dan bwysau neu'n cael ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithred rywiol
  • Yn ôl y gyfraith, nid oes gan rywun o dan 16 oed y gallu i gydsynio i gael rhyw

Os nad ydych chi’n siŵr a yw cydsyniad wedi’i roi – dylech chi bob amser ofyn. Os ydych chi’n gweld neu’n amau nad yw rhywun yn hollol gyfforddus neu’n fodlon gyda’r hyn sy’n digwydd, dylech chi bob amser stopio.