‘Sgamiau i sylwi arnynt... a'u hatal!
Rydym ni i gyd yn hoffi meddwl y byddem yn graff yn wyneb sgamiau, ond mae rhaglenni mwy soffistigedig yn dod â thwyllo mwy soffistigedig. Fodd bynnag, os ydych chi’n effro i’r peryglon ac yn dilyn y diweddaraf o ran triciau twyllwyr, byddwch yn lleihau’r posibilrwydd o gael eich twyllo.
Isod, mae gennym restr o’r sgamiau mwyaf cyffredin, sut i sylwi arnynt a’u hatal. Cofiwch nad yw'r rhestr hon yn gyflawn gan y bydd twyllwyr bob amser yn dod o hyd i ffyrdd newydd o dwyllo pobl, ond dyma’r pethau pwysicaf i’w cofio :
- Peidiwch BYTH â rhoi’ch cyfrinair llawn neu’ch côd PIN i neb. Ni fydd gwasanaeth dilys byth yn gofyn amdanynt yn llawn.
- Cofiwch, nid aur yw popeth melyn!
- Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael eich twyllo, cysylltwch â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu ar unwaith ag adroddwch i Action Fraud