Myfyrwyr yr UE sy'n parhau
Mae'r wybodaeth ar y dudalen we hon yn berthnasol i Wladolion yr UE a ddechreuodd eu cyrsiau cyn 1 Awst 2021. Os dechreuodd eich cwrs ar ôl y dyddiad hwn, gweler y dudalen we 'Rwy'n Wladolyn yr UE'.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd holl fyfyrwyr yr UE sy'n dechrau ar eu hastudiaethau cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys am gyllid myfyrwyr drwy gydol eu cwrs, heb ystyried newidiadau pellach yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE.
Serch hynny, os bydd newidiadau i'ch statws cofrestru, megis trosglwyddo, gohirio neu dynnu'n ôl, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu ag Arian@BywydCampws am gyngor ar eich hawl ariannu nawr ac yn y dyfodol. E-bostiwch ni ar money.campuslife@abertawe.ac.uk
Benthyciad Ffioedd Dysgu
Gall myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn yr UE ac sy’n dechrau ar eu hastudiaethau cyn 1 Awst 2021 gyflwyno cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am gost lawn ffioedd dysgu (yn amodol ar amodau a thelerau). Gallant wneud hyn drwy gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru
| Swm y flwyddyn academaidd |
Cost Ffioedd Dysgu |
£9000 |
Benthyciad Ffioedd Dysgu (Uchafswm) |
£9000 |
Caiff taliadau Benthyciad Ffioedd Dysgu eu talu’n uniongyrchol i’r Brifysgol yn dilyn cadarnhad o’ch presenoldeb bob tymor, felly nid oes angen unrhyw daliadau o flaen llaw.
Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru
Os ydych yn astudio un o gyrsiau’r GIG ym Mhrifysgol Abertawe a gallwch ymrwymo i weithio yng Nghymru, dylech gyflwyno cais ar-lein drwy: www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk
Os na allwch ymrwymo i weithio yng Nghymru, gallwch wneud cais am gyllid Ffioedd Dysgu drwy Wasanaethau Cyllid Myfyrwyr, fel uchod.
Meddygaeth i Raddedigion
Blwyddyn 1
Enw'r Benthyciad/Grant | Uchafswm y Benthyciad/Grant | Pwy sy’n Gymwys? | Prawf Modd? | Angen ei ad-dalu? | Sut gaiff ei dalu? |
Benthyciad Ffioedd Dysgu |
Hyd at £5,535 |
Myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion yr UE amser llawn a ddechreuodd eu cwrs cyn 1 Awst 2021 |
Nac Ydy |
Yndy |
Yn uniongyrchol i'r Brifysgol |
Bwrsariaeth Meddygaeth i Raddedigion y GIG |
Ddim ar gael |
|
AMH. |
AMH. |
AMH. |
Bydd angen i bob myfyriwr ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion dalu'r gwahaniaeth rhwng y ffioedd a'r benthyciad ei hun - bydd y swm hyd at £3,465
Blynyddoedd 2, 3 a 4
Enw'r Benthyciad/Grant | Uchafswm y Benthyciad/Grant | Pwy sy’n Gymwys? | Prawf Modd? | Angen ei ad-dalu? | Sut gaiff ei dalu? |
Benthyciad Ffioedd Dysgu |
Hyd at £5,535 |
Myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion yr UE amser llawn a ddechreuodd eu cwrs cyn 1 Awst 2021 |
Nac Ydy |
Yndy |
Yn uniongyrchol i'r Brifysgol |
Bwrsariaeth Meddygaeth i Raddedigion y GIG |
Ddim ar gael |
|
AMH. |
AMH. |
AMH. |
Os byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, dylech wneud cais i dîm Cyllid Myfyrwyr yr UE am y Benthyciad Ffioedd, ac i Swyddfa Bwrsariaeth y GIG yng Nghymru am y Fwrsariaeth Ffioedd.
Ewch i wefannau https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ a www.nwsspstudentfinance.wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth
Benthyciad a Grant Cynhaliaeth
Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr o wledydd eraill yr UE yn gymwys i gael cymorth gyda chostau byw. Fodd bynnag, os ydych wedi bod yn y DU am nifer penodol o flynyddoedd ac rydych yn bodloni meini prawf caeth penodol o rhan preswylio, mae'n bosib y gellir eich ystyried yn fyfyriwr cartref yn hytrach nag yn fyfyriwr o'r UE a derbyn cyllid cynhaliaeth.
Gall cymorth fod ar gael hefyd os ydych yn weithiwr mudol (neu'n berthynas briodol gweithiwr o'r fath) os ydych o wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, neu'n blentyn gweithiwr o Dwrci yn y DU.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am hawl i gael cymorth gyda chostau byw drwy gysylltu â'r tîm Arian@BywydCampws, mynd i wefan www.gov.uk a dilyn y dolenni priodol ar gyfer myfyrwyr o'r UE, neu gallwch gysylltu â thîm yr UE ar 0141 243 3570.
Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf preswylio i gael cymorth gyda chostau byw, mae'n bwysig eich bod yn ystyried sut rydych yn bwriadu talu'ch holl dreuliau wrth astudio.
Sylwer: Caiff myfyrwyr sy'n cwblhau rhaglen israddedig ac yna'n dechrau ar raglen astudio newydd ar ôl 20/21 eu hystyried fel myfyrwyr newydd gan eu bod yn cofrestru ar gwrs newydd. Felly bydd cymhwysedd cyllido'n amodol ar drefniadau cyllido sydd ar gael ar y pryd i fyfyrwyr newydd sy’n dechrau ar eu cwrs newydd, heb ystyried a oedd y myfyriwr wedi dechrau ar ei gwrs israddedig yn 20/21 neu cyn hynny.
Er enghraifft: Mae myfyrwyr yr UE sy'n dechrau ar gwrs israddedig cyn neu yn ystod blwyddyn academaidd 20/21 yn gymwys i dderbyn benthyciadau a/neu grantiau i gwblhau eu cwrs israddedig. Serch hynny, os ydynt yn penderfynu parhau â'u hastudiaethau a dechrau ar gwrs ôl-raddedig neu raglen Mynediad i Raddedigion ar ôl 20/21, maent yn destun trefniadau cyllido sydd ar gael ar amser dechrau'r cwrs newydd.