Prosiect a fydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr a'u syniadau yw SLATES (Cynllun Gwella Dysgu ac Addysgu Abertawe) er mwyn iddynt gael profiad dysgu gwell. Caiff prosiectau eu creu, eu datblygu a'u gweithredu ar y cyd rhwng y myfyriwr â chymorth a chefnogaeth gan aelod o staff academaidd.
Mae prosiect SLATES yn ceisio cynigion i wella agwedd ar ddysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno eu syniad i gael hyd at £500. Rhaid cyflwyno ar y cyd ag aelod o staff academaidd ym Mhrifysgol Abertawe.
Caiff prosiectau y mae angen adnoddau anariannol arnynt hefyd eu hystyried.
A oes gennych syniad a fyddai'n gwella’r meysydd dysgu, ymgysylltu, asesu, presenoldeb, pontio, cynnydd neu gyflogadwyedd?
Nod y prosiect yw gwella cyfraniad myfyrwyr er mwyn gwella eu profiad dysgu.
Caiff y syniadau gorau eu cyflwyno i golegau eraill fel enghreifftiau o arfer gorau a'u cyflwyno’n fusnes fel yr arfer.