Fel aelod o’r Gymuned Adolygwyr? Myfyrwyr, gallwch chi ddisgwyl ennill profiad, sgiliau a lefelau hyder sylweddol a fydd yn eich helpu chi yn yr amgylcheddau proffesiynol yn y dyfodol.
Cewch hefyd gyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at brofiad y dysgwr yn Abertawe a chael eich llais wedi’i glywed fel aelod gwerthfawr o’r tîm.
Bydd popeth a wnewch chi fel Adolygwr Myfyrwyr yn ymddangos ar eich Cofnod Cyrhaeddiad Academaidd, gan ddangos:
- Tystiolaeth o’ch proffesiynoldeb a’ch gallu i dderbyn cyfrifoldebau
- Profiad uniongyrchol o ddiwylliant rheoli/gweinyddu a arweinir gan werthoedd
- Hyder mewn amgylchedd cyfarfodydd
- Eich gallu i gyfrannu at ddadleuon a’r broses gwneud penderfyniadau academaidd
- Diddordeb brwd mewn dysgu, addysgu, ansawdd academaidd, llunio cwricwlwm a themâu addysgol eraill.
- Eich gallu i ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol a gweithio yn unol â chyfreithiau diogelu data.
- Eich ymrwymiad i gyfathrebu newid cadarnhaol yn y Brifysgol ac i ddylanwadu arno
- Hunan-hyder, sgiliau rheoli amser a blaenoriaethu gwaith, ac ymrwymiad i ddatblygu proffesiynol parhaus
- Ar gyfer adolygwyr myfyrwyr profiadol, profiad o gyflwyno hyfforddiant a hyfforddi eich cymheiriaid.
Darperir hyfforddiant helaeth i bob Adolygwr Myfyrwyr gan gychwyn gyda sesiynau grŵp cyn symud ymlaen i hyfforddiant un i un mwy arbenigol.
Cynigir sesiynau gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe er mwyn eich helpu chi i siarad am eich profiadau fel Adolygwr Myfyrwyr gyda chyflogwyr arfaethedig.
Hefyd, bydd gennych chi gofnod diriaethol oherwydd gall gweithgareddau adolygwr myfyrwyr gyfrif tuag at Wobr HEAR a Gwobr Academi Cyflogadwyedd Abertawe.
Ar ben hyn oll, byddwch chi’n cwrdd â llawer o bobl angerddol, gyfeillgar ac ysbrydoledig ar bob lefel ar draws y sefydliad sy’n gweithio i wella pethau. Mae’n argoeli bod yn brofiad a fydd yn cyfoethogi pawb sy’n cymryd rhan.