-(1).png)
Cydraddoldeb Hiliol ym Mhrifysgol Abertawe
POLISÏAU AC ADRODDIADAU
RISAC (Pwyllgor Cynghori ar gyfer Cynhwysiant Hiliol i Fyfyrwyr)
Ydych chi eisiau ein helpu ni i hyrwyddo Cydraddoldeb Hiliol ym Mhrifysgol Abertawe? Ymunwch â'n tîm RISAC gwych!
Digwyddiadau Blaenorol
Dathlwch Dreftadaeth Asiaidd gyda Ni!
Ar Ebrill 2il 2025, fe wnaethom gynnal trafodaeth banel ddifyr ar adennill naratifau, a darlith wrth i ni ddathlu Treftadaeth Asiaidd!
Gyda lluniaeth a chwis rhyngweithiol, bu cyfle i ennill gwobrau cyffrous. Roedd hwn hefyd yn gyfle i glywed safbwyntiau unigryw, rhwydweithio ag unigolion llawn ysbrydoliaeth, a dathlu treftadaeth Asiaidd gyda'n gilydd.
Wedi colli'r drafodaeth ddiddorol hon? Peidiwch â phoeni! Cliciwch ar y ddelwedd i wylio recordiad o'r digwyddiad.
Arddangosfa Adennill y Naratif
Roedd Arddangosfa Hanes pobl Ddu 2024 yn seiliedig ar y thema 'Adfer Naratif' ac yn sgîl hyn, gwnaethom wahodd myfyrwyr i gyflwyno eu gwaith celf, i ddathlu hanes, diwylliant a hunaniaeth pobl Ddu.
Roedd yr arddangosfa'n gyfle i archwilio sut mae cymunedau Duon, o’r gorffennol a'r presennol, wedi cymryd rheolaeth o'u straeon, wedi ailffurfio eu hunaniaethau, ac wedi ymwrthod â’r naratifau pennaf. P'un ai drwy addysg, hanes, celf, actifiaeth, neu brofiadau pob dydd, rydym yn eich annog i ddehongli'n greadigol y thema hon, drwy amlygu safbwyntiau personol, diwylliannol neu ryngwladol.
.jpg)
.jpg)
Arfogwch eich hun i hwyluso sgyrsiau beirniadol
Fel rhan o'n hymrwymiad i'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, rydym yn cynnig cyfle i chi ennill y sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder sy'n angenrheidiol i hwyluso sgyrsiau llawn effaith ar ddiwylliant, hil a gwrth-hiliaeth, yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi.
Roedd hwn yn gam hanfodol wrth adeiladu amgylchedd academaidd cynhwysol, gwrth-hiliol i gefnogi staff a myfyrwyr fel ei gilydd trwy hwyluso sgyrsiau beirniadol ar ddiwylliant, hil a gwrth-hiliaeth.
Du mewn Busnes gyda Deb Omole
Mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe (SIREN), roeddem wrth ein boddau ein bod wedi gallu croesawu Deb Omole a siaradodd am "Du mewn Busnes: Dechrau a chynyddu, heriau, twf a chyfleoedd ariannu".
Roedd y digwyddiad hwn yn agored i fyfyrwyr a staff, yn bersonol ac ar-lein.
.jpg)
.jpg)
"Adennill ein Naratif" - Trafodaeth Banel a Lansio'r Arddangosfa
Roedd y Drafodaeth banel "Adennill y Naratif", yn nodi lansiad ein harddangosfa Dathlu Hanes Pobl Dduon a'n hymrwymiad i'r Siarter Cydraddoldeb Hiliol.
Anogwyd myfyrwyr a staff i gymryd rhan mewn sgyrsiau ystyrlon am adennill straeon, herio stereoteipiau, a chreu cymunedau cynhwysol.