MAE’R SAFLE CYMRAEG YN CAEL EI DDATBLYGU AR HYN O BRYD
Ymddiheurwn ond mae’r cynnwys Cymraeg ar gyfer y safle hwn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Caiff y cynnwys ei ddiweddaru maes o law fel rhan o greu’r Gyfadran.
Ymddiheurwn unwaith eto am yr anghyfleuster a achosir.
Please accept our sincere apologies, but the Welsh content for this site is currently under development.
The content will be updated in due course as part of the Faculty creation.
We'd like to apologise once again for any inconvenience this may cause.
Croseo
Os ydych chi’n fyfyriwr newydd, croeso! Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd, croeso nôl! Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau’r haf a’ch bod chi’n edrych ymlaen at ymuno â ni yn y Coleg Gwyddoniaeth.
Hoffen ni esbonio sut byddwn ni yn y Tîm Gweinyddol yn eich cefnogi chi wrth i ni symud ymlaen oherwydd bydd pethau’n edrych ychydig yn wahanol. Er bydd ein rôl o ran eich cefnogi chi gydag elfennau ymarferol eich cwrs yn parhau i fod yr un peth, rydyn ni wedi gorfod addasu ein gwasanaethau rhywfaint o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol.
Cefnogaeth tîm gweinyddol
Hoffen ni esbonio sut byddwn ni yn y Tîm Gweinyddol yn eich cefnogi chi wrth i ni symud ymlaen oherwydd bydd pethau’n edrych ychydig yn wahanol. Er bydd ein rôl o ran eich cefnogi chi gydag elfennau ymarferol eich cwrs yn parhau i fod yr un peth, rydyn ni wedi gorfod addasu ein gwasanaethau rhywfaint o ganlyniad i’r sefyllfa bresennol.
Cyfarfod â ni
Os hoffech chi drefnu cyfarfod gydag aelod o staff wyneb yn wyneb, bydden ni’n ddiolchgar pe baech chi’n trefnu apwyntiad trwy cosadmin@abertawe.ac.uk. Dylech chi gynnwys amlinelliad o’ch gofyniadau a byddwn ni’n cysylltu â chi gan gynnig slot 30 munud er mwyn cyfarfod â chi.
Diolch am eich amynedd
Hoffen ni ddiolch i chi o flaen llaw am eich amynedd. Rydyn ni’n dymuno eich cefnogi chi gymaint â phosib yn ystod y cyfnod anarferol hwn. Fodd bynnag, wrth i ni weithredu tîm ychydig yn llai nag arfer ar y campws efallai y bydd angen i chi aros ychydig yn hirach er mwyn cael eich gweld pe baech chi’n ymweld â’n Swyddfeydd Gwybodaeth i Fyfyrwyr.
Mae hwn yn rheswm arall dros eich annog chi i gysylltu â ni ar-lein i ddechrau – rydych chi’n debygol o dderbyn yr wybodaeth yn gyflymach trwy ddefnyddio’r dull hwn.