Pan na fyddaf yn y Brifysgol, rwy'n byw yn Bournemouth yn Lloegr lle mae fy rhieni, fy nghi a'm cwningod yn byw ar hyn o bryd. Rwy'n mwynhau beicio i'r Brifysgol (fel arfer yn y glaw!) ac rwy'n nofio ac yn chwarae gemau bwrdd gyda chydweithwyr o'r swyddfa o bryd i'w gilydd ar y penwythnos.
BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC
Gwnes i ymgymryd â rôl cynrychiolydd myfyrwyr i helpu i weithio fel pont rhwng y Brifysgol a'i pholisïau a'u hymagweddau, a'r myfyrwyr sy'n gweithio yno. Rwy'n gobeithio cyflawni ffrwd gyfathrebu hwylus rhwng y myfyrwyr a'r sawl sy'n gallu creu newid er gwell yn y gweithle.
CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL
Cyfrifoldebau'r cynrychiolydd myfyrwyr yw rhoi adborth a chyfathrebu â'r Brifysgol o ran unrhyw welliannau posib y gellir eu gwneud. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys meddu ar ymagwedd hawdd mynd atoch i gynnwys myfyrwyr a threfnu cyfarfodydd drwy gydol y flwyddyn.
FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...
Fy maes ymchwil presennol yw bioleg fathemategol, yn benodol defnyddio mathemateg i astudio effeithiau lefelau braster ar dwf canser gydag amser. Mae'n cyfuno cyfrifiadureg, mathemateg a bioleg i helpu i ragfynegi canlyniad claf a pha driniaeth fyddai'n diwallu ei anghenion penodol orau.