Kira Pugh
Kira Pugh headshot
Degree
Hi

 

Drwy gydol fy oes, rwyf wedi byw yng Nghastell-nedd Port Talbot. Am y 7 mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwblhau fy ngradd israddedig, fy ngradd Meistr a'm gradd PhD yma. Heblaw am fy angerdd am fathemateg, rwy'n mwynhau mynd ar deithiau cerdded ac archwilio lleoedd newydd yn y byd. Ar ôl i mi gwblhau fy PhD, rwyf am deithio mwy, ymweld â phob cyfandir a hyd yn oed ystyried symud i wlad arall.

BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC

Drwy gydol fy ngradd PhD hyd yn hyn, rwyf wedi ymgymryd â rôl myfyriwr llysgennad a swyddog cymorth myfyriwr. Mae'r rôl yn cynnwys ymgysylltu â myfyrwyr nad ydyn nhw'n siŵr am ddilyn addysg uwch, boed hynny'n mynd i’r brifysgol neu'n ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig. Mae'r cyfle i gefnogi a thywys y myfyrwyr hyn ar sail fy mhrofiadau fy hun yn hynod werthfawr i mi. Mae gweld myfyriwr yn elwa o'm cyngor a gweld ei daith lwyddiannus i'r Brifysgol yn wirioneddol yn codi gwên ar fy wyneb.

Mathematics subject rep

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL

Fy nod yw gwrando'n astud ar safbwyntiau myfyrwyr ar fywyd yn y Brifysgol, boed yn gadarnhaol neu'n negyddol. Rwy'n bwriadu gweithio gyda staff i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.

Interesting fact

FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...

Rwy'n astudio Biofathemateg, lle rydym yn canolbwyntio ar greu modelau mathemategol o dwf canser. Mae gweithio gyda data go iawn wedi'u darparu gan gwmnïau fferylloll lle gallwch chi weld celloedd canser yn tyfu yn y labordy'n ddiddorol. Mae'n anhygoel gwybod bod cymwysiadau ymarferol y gwaith hwn yn gallu cyfrannu mewn ffordd wirioneddol at faes oncoleg fathemategol.

 

Contact