Croeso i Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe

Fel myfyriwr newydd yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, mae'r e-bost hwn yn cynnwys yr wybodaeth berthnasol y mae angen i chi ei gwybod ar ddechrau eich ymgeisyddiaeth

Mae eich ymgeisyddiaeth ffurfiol yn dechrau ar ddiwrnod cyntaf y mis rydych yn dechrau eich cwrs, naill ai ym mis Ionawr, ym mis Ebrill, ym mis Gorffennaf neu ym mis Hydref.  Gwnewch nodyn o hyn gan y bydd angen i chi wybod y dyddiad hwn yn y dyfodol!  Bydd angen i chi ail-gofrestru ar y dyddiad hwn yn flynyddol.  Ar ôl i chi gwblhau cyfnod byrraf eich ymgeisyddiaeth ni fydd unrhyw ffioedd pellach i'w talu, ond mae'n RHAID parhau i fod wedi cofrestru fel myfyriwr i dderbyn eich gradd.

  • Os ydych yn derbyn bwrsariaeth, mae'n bwysig eich bod yn cofrestru cyn gynted ag y gofynnir i chi wneud hynny er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn eich taliadau.
  • Os ydych yn derbyn Bwrsariaeth Staff mae'n rhaid gwneud cais newydd bob blwyddyn cyn yr amser cofrestru.
  • Os ydych yn cael eich talu gan drydydd parti, rhaid i Gyllid Myfyrwyr dderbyn yr hysbysiad ffurfiol gan y talwr ffioedd bob blwyddyn cyn cofrestru.

Sefydlu

Mae mynychu’r sesiwn sefydlu yn ofyniad gorfodol a bydd yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o'r Brifysgol, y Gyfadran a sut y byddwch yn cael eich cefnogi fel myfyriwr. Rhoddir gwybodaeth ychwanegol drwy gydol eich amser yn Abertawe trwy negeseuon e-bost gan pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk  a thrwy ein tudalen we Ymchwil Ôl-raddedig - Prifysgol Abertawe . Caiff y rhain eu diweddaru'n rheolaidd gyda'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch yn ystod eich amser fel Ymchwilydd Ôl-raddedig yn Abertawe ac mae'n cynnwys canllawiau ymarferol ar sut i wneud pethau, ynghyd â chalendr o ddigwyddiadau a seminarau y gallwch eu mynychu yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â'ch Tîm Goruchwylio

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â'ch goruchwyliwr cyntaf ar ôl i chi gofrestru.  Bydd yn esbonio'r trefniadau ymarferol mewn perthynas â'ch cwrs, a'ch goruchwyliwr fydd eich prif gyswllt yn y Gyfadran.

 Llawlyfr Canvas/Myfyrwyr

(Ar gael ar ôl i chi gofrestru ar gyfer Cerdyn Myfyriwr y Brifysgol)

Ar eich dangosfwrdd mewnrwyd fe welwch 'Canvas'.  Mae'r safle Canvas ar gyfer graddau Ymchwil Ôl-raddedig yn ffurfio'r 'Llawlyfr i Fyfyrwyr' ac mae'n cynnwys ystod eang o wybodaeth sy'n berthnasol i chi fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ac fe'ch anogir i ymgyfarwyddo â’i gynnwys a'i ddefnyddio fel adnodd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Monitro Presenoldeb

Mae'r Brifysgol yn gofyn bod presenoldeb ei holl fyfyrwyr yn cael ei fonitro. Defnyddir e:Vision i reoli hyn a bydd eich goruchwyliwr yn cofnodi eich presenoldeb yn fisol. Byddwn yn cysylltu â myfyrwyr sy'n absennol am ddau gyfnod yn olynol, a gall absenoldeb mynych arwain at ddiarddel myfyriwr o'i gwrs astudio.  

 Gwyliau a Salwch

Eich goruchwyliwr sy’n rheoli eich hawl am wyliau blynyddol o 4 wythnos ac unrhyw absenoldeb salwch.

 Absenoldeb o fwy na 7 niwrnod a theithio dramor

Bydd angen llenwi’r Ffurflen Gais am Absenoldeb Awdurdodedig (sydd ar gael ar y dudalen we) ar gyfer absenoldebau (nid gwyliau neu salwch) o fwy na 7 niwrnod, a'i dychwelyd i pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk

 Os ydych yn teithio dramor am reswm sy'n gysylltiedig â'ch gradd ymchwil neu'r Brifysgol, e.e. casglu data/ymchwil/cyfarfodydd/cynadleddau mae'n rhaid i chi hefyd gwblhau Asesiad Risg y Polisi Teithio Tramor a chario'r dogfennau Yswiriant priodol. Cysylltwch â'ch goruchwyliwr cyn gwneud unrhyw drefniadau na ellir eu had-dalu.

 Llinell amser eich gradd

Mae'r amserlen hon yn nodi'r cerrig milltir allweddol yn ystod y broses o gwblhau gradd.  Bydd eich goruchwylwyr yn eich cefnogi drwy bob cam yn y broses a chaiff y broses ei rheoli gan Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran. Cyflwynir y gweithgareddau hyn trwy'r system eVision ar-lein. Bydd Tîm Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran yn rhoi'r wybodaeth a'r canllawiau perthnasol i chi ar bob cam.  Mae'r amserlen yn cyfeirio at fyfyriwr amser llawn a byddai'n cael ei haddasu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

System Rheoli Ymchwil eVision (RMS)

Mae holl gerrig milltir y llinell amser yn cael eu rheoli a'u monitro drwy system ar-lein o’r enw e:Vision.  Byddwch yn cael trosolwg o ofynion y system hon yn y sesiwn sefydlu a bydd hyfforddiant pellach ar gael drwy'r porth hyfforddi.

Bydd pob neges o’r system yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost prifysgol  felly mae'n hanfodol eich bod yn monitro'r cyfeiriad hwn.

I gael mynediad i eVision, ewch i dudalen MyUni ar ôl i chi fewngofnodi.

The FSE Postgraduate Research Support Team handles all the administrative arrangements associated with your degree and assists with your progression through the various stages.  We will be contacting you using your student email account so please ensure that you monitor this account or have it forwarded to an account that you do regularly monitor.

Bydd y tîm yn eich helpu gydag unrhyw faterion neu ymholiadau felly cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch.

Gobeithiwn y bydd eich amser yn Abertawe yn gynhyrchiol ac yn bleserus.