Cwblhewch gopi o'r ffurflen gais ganlynol am archeb brynu: Ffurflen Archeb Peirianneg.xlsx
Bydd angen i chi gadarnhau manylion yr archebion rydych chi am eu gwneud.
Os nad oes modd cadarnhau'r manylion ar yr adeg hon, bydd tîm cyllid y gyfadran yn gallu eich helpu i'w cadarnhau nes ymlaen.
Gallwch gwblhau un ffurflen gais am archeb brynu ar gyfer nifer o archebion ar yr amod y cânt i gyd eu gwneud gyda Travel Planet ar eich rhan.
Dylai'r ffurflen cais am archeb brynu gael ei hanfon drwy e-bost at eich goruchwyliwr fel y gall ei hadolygu a'i chymeradwyo ar eich rhan. Dylai'r goruchwyliwr gadarnhau ei gymeradwyaeth fel a ganlyn:
i) Ychwanegu ei lofnod digidol at eich ffurflen archeb brynu.
ii) Anfon e-bost atoch yn cadarnhau ei fod wedi cymeradwyo manylion yr archeb brynu.
Yna dylid anfon y ffurflen gais am archeb brynu wedi'i chymeradwyo, ynghyd â'r holl ddogfennaeth ategol, at dîm cyllid y gyfadran i'w phrosesu ar eich rhan. Dyma'r cyfeiriad e-bost i'w ddefnyddio: fseorders@abertawe.ac.uk
Rhowch deitl yn eich e-bost yn y fformat canlynol: BRYS: Cais am drefniadau teithio ar gyfer myfyriwr ar ran (enw a rhif y myfyriwr)
Bydd hyn yn ein galluogi i weld yn gyflym mai cais am deithio yw eich e-bost.
Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad fel y gallwn eich cofrestru fel gwestai drwy ap Travel Planet. Yna byddwn yn gallu eich helpu i ystyried yr opsiynau teithio gwahanol sydd ar gael i chi a chyflwyno eich archeb.
Mae'r broses archebu yn debyg i unrhyw blatfform arall ar-lein i archebu trefniadau teithio. Bydd hysbysiadau, gan gynnwys tocynnau, yn cael eu hanfon atoch yn electronig drwy e-bost pan gaiff yr archeb ei chadarnhau.
Dylai'r holl ymholiadau mewn perthynas â’ch archeb deithio gael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost penodol canlynol: fseorders@abertawe.ac.uk