SEFYDLU

SESIYNAU SEFYDLU SYDD AR DDOD

2 Hydref 2024 - Lleoliad i'w gadarnhau

9 Hydref 2024 - Lleoliad i'w gadarnhau

Croeso i Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe

Fel myfyriwr newydd yng Nghyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe, bydd yr adran hon yn cynnwys yr wybodaeth berthnasol y mae angen i chi ei gwybod ar ddechrau eich ymgeisyddiaeth.

 Bydd eich ymgeisyddiaeth ffurfiol yn dechrau ar 1af y mis pan fyddwch chi'n dechrau ar eich cwrs, naill ai mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffennaf neu fis Hydref.  Gwnewch nodyn o hyn oherwydd bydd angen i chi wybod am y dyddiad hwn yn y dyfodol!  Bydd angen i chi ailgofrestru ar y dyddiad hwn bob blwyddyn.  Unwaith eich bod chi wedi cwblhau eich cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf, ni fydd rhagor o ffïoedd i'w talu, ond RHAID i chi fod wedi'ch cofrestru o hyd i dderbyn eich gradd.

  • Os ydych chi'n derbyn bwrsariaeth, mae'n bwysig i chi gofrestru cyn gynted â'ch bod chi'n cael cyfarwyddyd i wneud hynny i sicrhau eich bod chi'n parhau i dderbyn eich taliadau.

  • Os ydych chi'n derbyn bwrsariaeth staff, bydd angen cyflwyno cais newydd bob blwyddyn mewn pryd ar gyfer cofrestru.

  • Os ydych chi'n cael eich talu gan drydydd parti, rhaid i Gyllid Myfyrwyr dderbyn hysbysiad ffurfiol gan dalwr y ffïoedd bob blwyddyn cyn y cyfnod cofrestru.

Sefydlu

Mae'n ofynnol mynd i sesiwn sefydlu a bydd yn helpu i roi dealltwriaeth well i chi o'r Brifysgol, y Gyfadran a sut byddwch chi'n cael eich cefnogi fel myfyriwr. Darperir gwybodaeth ychwanegol drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Abertawe drwy e-byst gan pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk a thrwy ein tudalen we, Ymchwil Ôl-raddedig - Prifysgol Abertawe. Mae hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda'r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch yn ystod eich amser fel Ymchwilydd Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe ac mae'n cynnwys canllawiau addysgol ymarferol ynghyd â chalendr o ddigwyddiadau a seminarau y gallwch chi ddod iddynt am ddim.

Cysylltwch â'ch Tîm Goruchwylio

Mae'n hynod bwysig i chi gysylltu â'ch goruchwyliwr cyntaf ar ôl i chi gofrestru.  Bydd yn eich tywys chi drwy'r trefniadau ymarferol mewn perthynas â'ch cwrs a bydd yn brif bwynt cyswllt i chi yn y Gyfadran.

 Llawlyfr Canvas/Myfyrwyr

(Ar gael unwaith eich bod chi wedi cofrestru ar gyfer eich cerdyn myfyriwr Prifysgol)

Ar ddangosfwrdd eich mewnrwyd, gweler ‘Canvas’. Tudalen we Canvas y graddau Ymchwil Ôl-raddedig yw'r ‘Llawlyfr Myfyrwyr’ ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth sy'n berthnasol i chi fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig ac fe'ch anogir i ymgynefino â'i gynnwys a'i ddefnyddio fel adnodd i ateb cwestiynau sydd gennych.

Monitro Presenoldeb

Mae'r Brifysgol yn gofyn i bresenoldeb ei holl fyfyrwyr gael ei fonitro. Defnyddir e:Vision i reoli hyn a bydd eich goruchwyliwr yn cofnodi eich presenoldeb bob mis. Cysylltir â myfyrwyr sy'n methu dod i ddwy sesiwn yn olynol a gall diffyg presenoldeb cyson arwain at dynnu myfyriwr yn ôl o'i gwrs astudio.

 Gwyliau a Salwch

Caiff yr hawl i 4 wythnos o wyliau blynyddol ac absenoldeb salwch eu rheoli gan eich goruchwyliwr.

 Absenoldeb o fwy na 7 niwrnod a theithio dramor

Ar gyfer absenoldebau (nad ydynt yn wyliau neu'n absenoldebau salwch) o fwy na 7 niwrnod, bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen Cais am Absenoldeb Dros Dro o Astudio a'i dychwelyd i pgr-scienceengineering@abertawe.ac.uk

Os ydych chi'n teithio dramor am reswm sy'n gysylltiedig â'ch gradd ymchwil neu'r Brifysgol e.e. casglu data/ymchwil/cyfarfodydd/cynadleddau, rhaid i chi hefyd gwblhau Asesiad Risg y Polisi Teithio Dramor a mynd â'r dogfennau yswiriant priodol gyda chi. Cysylltwch â'ch goruchwyliwr cyn i chi wneud trefniadau nad oes modd eu had-dalu.

 Amserlen eich gradd

Mae'r amserlen hon yn nodi'r cerrig milltir allweddol yn ystod eich gradd.  Byddwch yn cael eich cefnogi drwy bob cam o'r broses gan eich goruchwylwyr a chaiff y broses ei rheoli gan Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran. Darperir y gweithgareddau hyn drwy'r system eVision ar-lein. Bydd Tîm Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran yn gallu rhoi'r wybodaeth a'r arweiniad perthnasol i chi ar bob cam.  Mae'r amserlen yn cyfeirio at fyfyriwr amser llawn a byddai hon yn cael ei haddasu ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

System Rheoli Ymchwil eVision (RMS)

Caiff yr holl gerrig milltir yn yr amserlen eu rheoli a'u monitro drwy system ar-lein o'r enw e:Vision  Rhoddir trosolwg i chi o ofynion y system hon yn ystod y cam sefydlu a bydd rhagor o hyfforddiant ar gael drwy'r porth hyfforddiant.

Byddwch yn derbyn eich holl negeseuon o'r system yn eich cyfrif e-bost Prifysgol felly mae'n hanfodol eich bod chi'n monitro'r cyfrif hwn.

Ceir mynediad at eVision ar dudalen MyUni unwaith eich bod chi wedi mewngofnodi.

Mae Tîm Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ymdrin â'r holl drefniadau gweinyddol sy'n gysylltiedig â'ch gradd ac mae'n eich cynorthwyo drwy'r camau amrywiol.  Byddwn yn cysylltu â chi gan ddefnyddio eich cyfrif e-bost myfyriwr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad ar y cyfrif hwn neu trefnwch i'r e-byst gael eu hanfon ymlaen at gyfrif rydych chi'n cadw llygad arno'n rheolaidd.

Bydd y tîm yn eich helpu gyda phroblemau neu ymholiadau felly mae croeso i chi gysylltu â ni os bydd angen cymorth arnoch.

Rydym yn gobeithio y bydd eich amser ym Mhrifysgol Abertawe'n gynhyrchiol ac yn ddymunol.