Beth yw Moeseg mewn Ymchwil?
Egwyddorion moesol sy'n llywodraethu sut dylai ymchwilwyr ymgymryd â'u gwaith.
Fe'u defnyddir i lywio rheoliadau ymchwil y cytunir arnynt gan gymheiriaid (cyrff llywodraethu prifysgolion, cymunedau, cyllidwyr, llywodraethau)
Mae cydymffurfiaeth foesol yn amod angenrheidiol o Ymchwil Wyddonol Ddibynadwy
Beth yw Ymchwil Wyddonol?(ar gyfer sgrinio moesegol)
Defnyddio data neu wybodaeth newydd i gynhyrchu gwybodaeth nad yw'n gyhoeddus eto
Defnyddio'r dull gwyddonol
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae cydymffurfiaeth foesol yn amod angenrheidiol o Ymchwil Wyddonol Ddibynadwy
Os nad yw eich ymchwil yn foesegol, neu os nad yw wedi cael ei sgrinio'n foesegol, nid oes modd ei chyhoeddi.
System moeseg ar-lein
Ceir mynediad yn https://myapps.microsoft.com/
Dewiswch y deilsen ‘Moeseg – Ymgeisydd’
Proses dau gam:
Cam 1 – Hunan-asesiad i hidlo prosiectau sydd heb lawer o risg
Cam 2 – Adolygiad gan bwyllgor ar gyfer ceisiadau a all fod â risg
ADOLYGIAD GAN BWYLLGOR
Cyflwyno ceisiadau i bwyllgor
Bydd y weithdrefn adolygu'n para rhwng 2 a 3 wythnos fel arfer
Gall y weithdrefn lawn, gan gynnwys diwygiadau, gymryd hyd at 6 wythnos
Penderfyniadau
Bydd cynigion naill ai'n cael eu cymeradwyo neu eu dychwelyd a gwahoddir yr ymgeiswyr i'w hailgyflwyno unwaith bydd ymholiadau wedi'u hateb.
Bydd ceisiadau'n cael eu dychwelyd fel arfer oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth.
Unwaith bydd y pwyllgor yn fodlon ar yr wybodaeth a ddarperir, caiff y cais ei gymeradwyo a gwneir datganiad risg er enw da.
CAMAU I'W DILYN AR Y SYSTEM MOESEG YMCHWIL
Dewiswch ‘Creu Prosiect’
Rhowch deitl ystyrlon i'ch prosiect sy'n adlewyrchu eich astudiaeth arfaethedig
Dewiswch ‘ffurflen gais moeseg ymchwil’
Darllenwch y rhan Croeso a Chyfarwyddiadau
Dechreuwch adeiladu eich cais moeseg drwy ddewis Prif Ymgeisydd.
Gan ddibynnu ar y manylion, gall rhagor o adrannau ymddangos.
Atebwch y cwestiynau syml cychwynnol
Mae'r tab gwybodaeth yn rhoi rhagor o wybodaeth/eglurhad
Gallwch chi symud drwy'r cais drwy ddewis ‘Nesaf’
Bydd y botwm llywio yn mynd â chi'n ôl i'r sgrîn hafan.
Gallwch chi gadw eich cynnydd ar unrhyw adeg. Caiff y ffurflen ei chadw'n awtomatig pan ddewiswch chi ‘Nesaf’
Bydd angen i chi lofnodi'r cais, unwaith ei fod ef wedi'i gwblhau, a gofyn am lofnod gan eich goruchwyliwr drwy'r system
Unwaith bod eich goruchwyliwr wedi llofnodi'r cais, byddwch chi naill ai'n derbyn cymeradwyaeth (drwy e-bost) neu caiff eich ffurflen ei hanfon i bwyllgor i'w hadolygu.
Bydd y rhan fwyaf o geisiadau yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn derbyn cymeradwyaeth yn awtomatig.
Unwaith eich bod chi wedi derbyn eich cymeradwyaeth, gallwch chi ddechrau casglu eich data.
Os oes angen i chi gyflwyno diwygiad, gallwch chi wneud hyn drwy'r system foeseg cyn gynted â phosibl.