Trosolwg o archebion teithio

Mae'r Brifysgol wedi rhoi polisi rheoli teithio ar waith er mwyn cefnogi anghenion teithio aelodau staff a myfyrwyr. Mae'r polisi'n darparu ar gyfer archebion teithio yn y Deyrnas Unedig a thramor. Elfen allweddol arall o'r polisi yw sicrhau iechyd a diogelwch yr holl staff a myfyrwyr sy'n teithio ar ran y Brifysgol, yn unol â’n dyletswydd gofal.

Wrth gynllunio archebion teithio, rhaid dilyn yr arweiniad isod:

  1. Trafodwch eich anghenion teithio gyda'ch goruchwyliwr oherwydd nhw fydd yn gyfrifol am y cyllid a fydd yn cefnogi eich gofynion teithio.
  2. Bydd eich goruchwyliwr yn adolygu eich cais ac yn cadarnhau a yw wedi cael ei gymeradwyo neu beidio. Byddan nhw wedyn yn cadarnhau manylion côd y cyfrif y bydd angen ei nodi yn eich cais teithio.
  3. Bydd angen i chi lenwi ffurflenni ar gyfer teithio cenedlaethol a theithio rhyngwladol.

Polisi Teithio

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr lenwi Ffurflen Cais i Deithio i unrhyw gyrchfan rhyngwladol. Yn ogystal, bydd angen i chi gwblhau Asesiad Risg Teithio Rhyngwladol (GwyrddOrenCoch). Unwaith rydych chi wedi cwblhau'r ffurflenni hyn, mae angen i chi eu hanfon at fse-exec@abertawe.ac.uk er mwyn cael cymeradwyaeth gan y Gyfadran.

Teithio Cenedlaethol

Mae'n ofynnol i bob myfyriwr lenwi Asesiad Risg cyn unrhyw deithio cenedlaethol. Unwaith rydych chi wedi cwblhau'r ffurflen hon, mae angen i chi ei hanfon at fse-exec@abertawe.ac.uk er mwyn cael cymeradwyaeth gan y Gyfadran.

Unwaith bydd y ffurflen wedi ei chymeradwyo, bydd angen i chi fynd i Ddesg Gymorth Cyllid Service Now a dewis Cais i Deithio.

Mae'n hanfodol bod y ffurflenni hyn yn cael eu cwblhau cyn teithio fel eich bod yn cael eich cynnwys gan Bolisi Yswiriant y Brifysgol, felly peidiwch â gadael cyflwyno'r ffurflenni cymeradwyaeth i deithio tan y funud olaf, yn ddelfrydol dylech chi gyflwyno'r wybodaeth hon o leiaf fis cyn teithio os yn bosibl.

Teithio Rhyngwladol

Mae teithio rhyngwladol yn rhan reolaidd o waith ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe felly mae'n bwysig bod pob aelod staff a myfyriwr sy'n gweithio ac yn teithio'n rhyngwladol yn ymwybodol o'r risgiau posibl ac yn dilyn y canllawiau a'r gweithdrefnau angenrheidiol i helpu i gadw eu hunain a'r rhai a all fod yn teithio gyda nhw yn ddiogel. Gall teithio rhyngwladol fod yn unrhyw beth o fynd i gynhadledd, ymweld â phrifysgol ryngwladol i gynnal taith maes yn unrhyw fan y tu allan i Brydain Fawr.

Fel yn achos mathau eraill o deithio, mae teithio rhyngwladol yn cyflwyno ei risgiau ei hun, felly mae'n hanfodol eich bod yn cynllunio eich taith yn brydlon i sicrhau bod pob risg a rheolydd/trefniant wedi cael ei ystyried, gan gynnwys rhoi cynlluniau brys a chynlluniau ar gyfer unrhyw fath o darfu mewn lle, er mwyn caniatáu i'r daith gael ei chynnal yn ddiogel. 

Mae tair ffurflen angenrheidiol ar gyfer cymeradwyo teithio rhyngwladol:

  1. Ffurflen Cais i Deithio
  2. Ffurflen Asesu Risg Teithio Rhyngwladol
  3. Ffurflen Datganiad a Gwybodaeth Cyfranogwr (ar gyfer teithio mewn grŵp yn unig)

Mae arweiniad pellach ar deithio rhyngwladol ar gael yma.

Arweiniad ynghylch Risg Teithio Rhyngwladol

Cysylltu

Rhaid i bob ymholiad sy'n ymwneud â theithio gael ei wneud drwy ddesg gymorth newydd Service Now.