GOFALU AM DY HUN

Rydym yn sylweddoli bod hwn yn amser llawn straen i bawb, ac y gall fod yn anodd cadw’n gadarnhaol ac yn frwdfrydig yn y sefyllfa hon. Edrycha ar y prif opsiynau sydd gan y Brifysgol o ran cymorth isod:

  • Y Gwasanaeth Gwrando - Pe taset ti erioed eisiau sgwrsio â rhywun o'r Brifysgol am sut rwyt ti'n teimlo, mae Gwasanaeth Gwrando cyfrinachol ar gael i ti na fydd yn dy farnu, sy'n cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Myfyrwyr dros y ffôn neu drwy gyfarfod fideo ar-lein. Bydd yn cynnal apwyntiadau personol hyd at 23 Rhagfyr 2020, gan gynnwys y dyddiad hwnnw, a bydd yn ail-ddechrau ar 5 Ionawr.
  • Togetherall - Gwasanaeth iechyd meddwl digidol yw Togetherall, sydd ar gael am ddim yn com Gan ddefnyddio dy gyfeiriad e-bost ym Mhrifysgol Abertawe, gelli di ddod o hyd i gymorth yn ddienw ar-lein 24/7 gan glinigwyr hyfforddedig, ynghyd ag ystod o offer ac adnoddau defnyddiol. Mae'n lle diogel ar-lein i drafod dy bryderon, sgwrsio, mynegi eich meddyliau’n greadigol a dysgu sut i reoli dy iechyd meddwl.
  • Gwasanaeth Lles - Mae gwasanaeth iechyd meddwl penodol gan y Brifysgol o'r enw'r Gwasanaeth Lles. Gelli di lenwi Ffurflen Cais am Gymorth Lles er mwyn iti dderbyn adnoddau mwy penodol neu gael dy gyfeirio at y gwasanaeth gorau ar gyfer dy ymholiad. Lle bo’n briodol, bydd y Gwasanaeth Lles yn cynnig apwyntiadau byr am gyngor ac arweiniad sydd ar gael dros y ffôn neu Zoom. Nid sesiynau iechyd meddwl na chwnsela yw’r apwyntiadau hyn, ond maent yn gallu cynnig cymorth, gwybodaeth a chyfeirio. Hefyd, mae tudalen Adnoddau Hunangymorth ganddynt sy'n cynnwys rhestr o apiau a gwybodaeth ddefnyddiol.
  • Cymorth yn ystod argyfwng - Mae tudalen gymorth Cymorth yn ystod argyfwng gan y Brifysgol, sy'n cyfeirio myfyrwyr at y lleoedd i fynd ar gyfer cymorth ar unwaith os ydynt mewn argyfwng.

FFYRDD O GYSYLLTU Â CHYFYNGIADAU COVID-19

Er ei bod hi'n iawn i beidio â dwlu ar gymdeithasu neu weithgareddau di-baid, i rai pobl gall fod yn actif a chysylltu â phobl eraill helpu gyda dy hwyliau a dy gymhelliad. Gweler yr wybodaeth isod am syniadau:

Y Dudalen Meddylfryd Cadarnhaol – Mae'r Dudalen Meddylfryd Cadarnhaol  yn cynnwys cyfuniad o adnoddau sy'n benodol i Brifysgol Abertawe, cynnwys a grëwyd gan staff ymroddedig Prifysgol Abertawe a'n myfyrwyr gwych, yn ogystal ag argymhellion gan sefydliadau ac unigolion ar draws y wlad.Os oes gennyt ti rywbeth i'w rannu, boed yn rysáit, yn flog, yn lluniau neu’n gerdd, cysyllta â ni.

Discovery - Cymdeithas Gwirfoddoli i Fyfyrwyr - Discovery yw’r grŵp gwirfoddoli i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae llawer o'r prosiectau ar gael heb ofidio am fesurau cyfyngiadau symud ac mae modd cael mynediad atynt o bedwar ban byd.

Ymuna â'r tîm ar ddydd Mercher am 1pm yn fyw ar Facebook ar gyfer Soffa Rithwir;  cei di'r newyddion diweddaraf, yn ogystal â chael sgwrs am wirfoddoli a'r cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf: www.facebook.com/DiscoverySVS/ 

Dyma fideo tair munud sy'n crynhoi'r hyn mae Discovery yn ei wneud:https://youtu.be/R9-5_JYo028

House  Party – Mae House Party yn ap a ddyfeisiwyd i dy helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau drwy dy ffôn a dy borwr rhyngrwyd. Drwy'r ap, mae modd iti gynnal sgyrsiau fideo a chwarae gemau megis Heads Up a Trivia.https://houseparty.com/

Dosbarthiadau Ymarfer Corff  – Fitness Blender:https://www.fitnessblender.com/videos

Ioga gydag Adrienne  - https://www.youtube.com/user/yogawithadriene

Rhagor o syniadau gan  MyUni Hub – Gweler rhestr o syniadau ar dudalennau MyUni:http://studentnewsletter.swan.ac.uk/archives/16233