I gysylltu â'ch cynrychiolwyr, postiwch ar Unitu, neu ewch i dderbynfa beirianneg am fanylion cyswllt

Cymdeithasau ar gyfer myfyrwyr y Flwyddyn Sylfaen
Y Cymdeithas Awyrofod
Dylech ystyried cymryd rhan yn y gymdeithas Peirianneg Awyrofod eleni. Mae’n ffordd wych o wella eich gradd trwy gwrdd â chymheiriaid â’r un diddordebau â chi, gan greu ffrindiau newydd a chael amser gwych yn ystod ein digwyddiadau cymdeithasol! Ymhlith y digwyddiadau mae digwyddiadau cymdeithasol, sesiynau efelychu hedfan (am hwyl neu ymarfer) ac ystod eang o ddigwyddiadau megis ein cynhadledd diwedd blwyddyn a’n sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr!
I ymaelodi, mewngofnodwch i’r wefan gan ddefnyddio eich rhif myfyriwr, yna dewiswch yr opsiwn prynu aelodaeth ar waelod ochr chwith y sgrîn.
Bydd y tâl aelodaeth £3 yn rhoi mynediad i chi at ein digwyddiadau, gostyngiadau a gwybodaeth well am ein holl weithgareddau drwy gydol y flwyddyn
E-bost: aerospace@swansea-societies.co.uk
Facebook: https://www.facebook.com/SUAerospaceSociety/
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/aerospace/
Y Gymdeithas Peirianneg Cemegol ac Amgylcheddol
Mae Cymdeithas Peirianneg Gemegol ac Amgylcheddol yn rhoi'r cyfle i chi wneud ffrindiau ar eich cwrs, derbyn cyngor gan fyfyrwyr mewn blynyddoedd uwch, ac rydym hefyd yn eich helpu i rwydweithio â graddedigion Prifysgol Abertawe a myfyrwyr Blwyddyn Mewn Diwydiant sy'n dychwelyd. Rydym yn cynnal teithiau i Barc Trampolinio Limitless, cwisiau tafarn, nosweithiau bowlio a phethau megis sesiynau chwaraeon drwy gydol y flwyddyn. R
ydym hefyd yn cynnal nosweithiau allan yn Abertawe. Yn olaf, rydym yn helpu i gydlynu'r daith ar gyfer digwyddiad Frank Morton IChemE bob blwyddyn.
I ymaelodi neu i ddysgu mwy am ein gwaith:
E-bost: chemicalengineering@swansea-societies.co.uk
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/chemenviroeng/
Twitter: https://twitter.com/SwanseaChemEng
Facebook: https://www.facebook.com/groups/SwanseaUniversityC.E.E.S/
Y Cymdeithas Sifil (CIVSOC)
Mae aelodau CIVSOC yn mwynhau amrywiaeth o gyfleoedd i rwydweithio megis sgyrsiau ac ymweliadau safle a gynhelir mewn partneriaeth ag ICE ac Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn ogystal â chynulliadau cymdeithasol rhagorol. Cynhelir ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol o nosweithiau â thema o amgylch y dref i ddigwyddiadau di-alcohol mewn lleoliadau megis Parc Trampolinio Limitless, Bowlio Deg a llawer mwy.
Digwyddiadau cymdeithasol 🍻
Roedd ein taith golff y tafarndai flynyddol trwy Uplands gan orffen yn Sin a gynhaliwyd yn ddiweddar yn llawn hwyl a sbri ac roedd gweld cynifer o wynebau newydd yn wych. Cynhelir ein digwyddiad cymdeithasol nesaf ym Mharc Trampolinio Limitless. Hoffech chi gymryd rhan? Gweler y manylion ymaelodi isod.
Dydd Gŵyl Dewi 🏴
Mae CIVSOC yn rhan o drefnu dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni yn ogystal â’r gymdeithas fusnes, Uni a cholegau eraill ar Gampws y Bae. Byddwn ni’n gyfrifol am y dathliadau yn adeilad Peirianneg Canolog ar ddydd Gwener 1 Mawrth. CYSYLLTWCH Â NI os hoffech chi helpu neu os oes gennych chi unrhyw syniadau!
Cwpan y Bae 🏆
Fel enillwyr Cwpan y Bae y llynedd rydym, wrth gwrs, yn disgwyl cadw ein teitl eleni. Mae Kris Bajaj (ysgrifennydd y gymdeithas) yn aelod o bwyllgor Cwpan y Bae ar ein rhan eleni felly dylech chi gysylltu ag ef ar gyfer unrhyw gyfleoedd hyfforddiant. Cysylltwch â’r Llywydd (Jordan Williams) os hoffech chi gymryd rhan fel capten ar unrhyw dîm ayyb. Gweler y manylion cyswllt isod.
Gemau pêl-droed y gymdeithas ⚽️
Mae Dexter Stagg o’r Gymdeithas Peirianneg Gemegol wedi bod yn gweithio gyda Luke Cook (ein cynrychiolydd CPD) i drefnu twrnameintiau wythnosol rhwng cymdeithasau bob dydd Mercher, 2-4pm, ar Gampws y Bae. Cysylltwch â ni i dderbyn gwybodaeth am hyn. Siŵr o fod caiff ei defnyddio er mwyn dewis y tîm ar gyfer Cwpan y Bae.
Sut i ymuno?
4 yn unig yw ein haelodaeth ar gyfer eich holl amser yma ym Mhrifysgol Abertawe!
Gallwch brynu eich aelodaeth yma:bit.ly/CIVSOC-SU
Grŵp Facebook: SwanseaCIVSOC
Unwaith y byddwch wedi gwneud hyn, dewch o hyd i ni ar Facebook, SwanseaCIVSOC ac yna gwnewch gais i ymuno. Gwnewch yn siwr eich bod wedi prynu eich aelodaeth cyn cyflwyno cais neu bydd yn cael ei wrthod. Os oes gennych ffrindiau sydd eisoes yn aelodau, rhowch wybod iddynt am y grŵp a gofynnwch iddynt ymuno.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio civilengineering@swansea-societies.co.uk neu ymuno â ni ar Facebook. Gallwch hefyd adael eich manylion yn y dderbynfa peirianneg a byddwn yn cysylltu â chi.
Y Cymdeithas Peirianneg Drydanol ac Electronig
Y Gymdeithas Peirianneg Electronig a Thrydanol ac IET ar y campws.
Mae’r Gymdeithas Peirianneg Electronig a Thrydanol yn gweithio gyda’r IET ar y campws i gynnig ystod o ddigwyddiadau cymdeithasol a phroffesiynol i aelodau drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n ffordd dda o gwrdd â phobl newydd ac o gymdeithasu a derbyn cyngor gan fyfyrwyr ym mhob blwyddyn.
Facebook: https://www.facebook.com/groups/836162713094928/
E-bost: electronicandelectrical@swansea-societies.co.uk
Twitter: https://twitter.com/Swansea_EEE_Soc
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/eee/
Y Gymdeithas Peirianneg Defnyddiau
Nod y Gymdeithas Peirianneg Ddeunyddiau yw dod ag addysg a diwydiant ynghyd. Drwy gydol pob tymor rydym yn cynnal ymweliadau â diwydiant, darlithoedd gan Gymdeithas Ddeunyddiau De Cymru, ac wrth gwrs ddigwyddiadau cymdeithasol i roi cyfle i bobl ddod i adnabod myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn.
Rydym hefyd yn helpu i gynnig cyfleoedd y tu allan i’r Brifysgol trwy gynnal teithiau megis taith i’r Labordy Niwclear Ffiseg yng Ngenefa a hefyd leoliadau gwaith dros yr haf a gweithgareddau STEM.
Facebook: https://www.facebook.com/groups/719630278115590/
E-bost: materialsengineering@swansea-societies.co.uk
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/materialsengineering/
Twitter: https://twitter.com/matsocswansea
Y Gymdeithas Peirianneg Fecanyddol
Mae’r Gymdeithas Peirianneg Fecanyddol yn dychwelyd eleni gan gynnwys llawer o ddigwyddiadau newydd megis gweithdai, nosweithiau astudio, nosweithiau ffilm, digwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau. Cymerwch ran!
Tudalen Undeb y myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/22747/
Facebook: https://www.facebook.com/groups/345390215922963/
Twitter: https://twitter.com/SUMechEngSoc
Y Gymdeithas Peirianneg Feddygol
Mae'r Gymdeithas Peirianneg Feddygol yn cynnal amrywiaeth o sesiynau academaidd a digwyddiadau cymdeithasol, ac mae'n darparu lle i fyfyrwyr ysbrydoli, cydweithio a datblygu fel cymuned o beirianwyr ifanc. Mae'r gymdeithas hefyd yn lle i gymdeithasu a rhwydweithio gyda'r cyfle i roi a derbyn cymorth a chyngor.
'Facebook': https://www.facebook.com/SwanseaMedEngSociety/
E-bost: medicalengineeringsociety@swansea-societies.co.uk
Tudalen we Undeb y Myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/medengsociety/
'Instagram': https://www.instagram.com/swanseamedengsociety/?fbclid=IwAR2njfGfN_95z485QRGl0pgar2lllAZ-tMsoJq7ucHZg35ZME-b_7QUq7Xw
Cymdeithas Menywod Abertawe yn Peirianneg
Mae Cymdeithas Menywod mewn Peirianneg Abertawe yn gymdeithas a arweinir gan fyfyrwyr sy’n rhan o Undeb y Myfyrwyr a’r Gymdeithas Menywod mewn Peirianneg Ryngwladol. Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau ac un o’n prif nodau yw rhwydweithio a chysylltu â pheirianwyr wrth gymdeithasu a mwynhau bod yn fyfyriwr yn Abertawe. Mae croeso i bob myfyriwr Peirianneg ymaelodi, dynion a merched. Rydym yn gweithio’n aros gyda Chynllun Mentora Cymheiriaid y Coleg i gefnogi peirianwyr benywaidd.
Felly gwnewch y mwyaf o’ch amser yn Abertawe ac ymunwch â ni!
E-bost: swanseawes@swansea-societies.co.uk
Tudalen Undeb y Myfyrwyr: https://www.swansea-union.co.uk/activities/society/24147/
Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaWES/
Twitter: https://twitter.com/SwanseaWES
Cymdeithas Peirianneg Râs Prifysgol Abertawe (‘SURE’)
Mae bod yn rhan o dîm Peirianneg Rasio Prifysgol Abertawe yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr o bob cwrs gymryd rhan yng nghylch bywyd cyfan prosiect peirianneg: o'r cysyniadau dylunio cychwynnol, y gwaith adeiladu a phrofi, i'r brif foment - rasio'r car. Ymunwch â ni i wneud cyfeillgarwch hir oes ac i ennill profiad ymarferol a chreu cysylltiadau amhrisiadwy ar gyfer dyfodol disglair ar ôl gadael y Brifysgol.
Facebook: https://www.facebook.com/SwanseaRacing
Twitter: https://twitter.com/SwanseaRacing
YouTube: https://www.youtube.com/watch?v=qARM9tn_c7s&ab_channel=%C4%8Deryfilms
Eich Cynrychiolwyr Myfyrwyr
Eich Cynrychiolwyr Pwnc
James Stewart - Peirianneg Sylfaen
Yassmeen El Mozee- Peirianneg Sylfaen
Panashe Mangwendeza - Peirianneg Sylfaen
Eich Cynrychiolwyr o'r Coleg
Alexis Ciunek - Cynyrchiolydd Coleg Israddedig
Katie Clark - Cynyrchiolydd Coleg Israddedig
Bryony Venn - Cynrychiolydd Coleg Ôl-raddedig a Addysgir